Yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd, yn ddiweddar, cododd y Cynghorydd dros Benrhyndeudraeth, Meryl Roberts, y pryder dros bobl hŷn y sir, gan holi am gefnogaeth ei chyd gynghorwyr i anfon gohebiaeth at Brif Weinidog Lloegr yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi. (Yn y llun, gwelir Cynghorwyr Gwynfor Owen, Dewi Jones, Delyth Griffiths, Meryl Roberts a Dilwyn Morgan)
Gyda thros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar daliadau tanwydd gaeaf, sef o leiaf 85% o breswylwyr hŷn y sir, roedd llygaid nifer yn troi ei golygon at y gyllideb yr wythnos ddiwethaf. Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Y Bala, aelod cabinet dros oedolion a phencampwr oed gyfeillgar Gwynedd: “Mae cymaint o’n trigolion ni yn tanhawlio credyd pensiwn. Mae tua 1700 o drigolion ddim yn derbyn y gefnogaeth hon, felly byddwn yn annog pobl i wirio ydyn nhw’n gymwys ai peidio. Os yn gymwys, maent yn cael taleb gwresogi cartref, hefyd
“Fy mhryder i ydi’r bobl hynny sydd ar y ffin, y rhai sydd ychydig o bunnoedd dros ricyn y taliad credyd. Fel cyngor, rydyn ni wedi sefydlu Tasglu Taliadau Gaeaf i bensiynwyr. Tasglu sy’n edrych yn drawsadrannol ar y broblem, o Adran yr Economi, Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tîm Incwm a Llesiant, Siop Gwynedd a’r Adran Gyllid. A’r pwrpas fydd creu ymgyrch sirol i godi ymwybyddiaeth pobl hŷn o’r hyn sydd ar gael iddyn nhw.
“Cawson ni ddigwyddiad ym Mhorthmadog yn ddiweddar, ‘Byw’n Iach, Byw’n Dda,’ lle'r oedd 20 o sefydliadau wedi mynychu i gynnig cyngor ac arweiniad i’n trigolion ni. Roedd sesiynau gan Wasanaeth y Llywodraeth yr Adran Gwaith a Phensiynau am sut i gyfathrebu efo pobl. Ces sgwrs hefyd, yn ddiweddar efo’r Comisiynydd Pobl Hŷn i glywed ganddi hithau am yr hyn y gallwn ni gydweithio arno, er lles pobl Gwynedd.”
Yn ôl y Cynghorydd Gwynfor Owen, Ward Harlech a Llanbedr a eiliodd gynnig y Cynghorydd Meryl Roberts yn y cyngor llawn: “Dwi’n gweld y cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth Lafur yn gwbl haerllug. £218.16 ydi pris y pensiwn gwladol. Sut ar wyneb daear mae trigolion hŷn yn fod i fyw ar hwnnw, heb sôn am drio gwresogi eu tai y gaeaf yma? Ymosodiad ar y tlawd ydi’r toriad yma, gan y Blaid Lafur.”
Un arall sy’n flin gyda’r Llywodraeth yn San Steffan yw’r Cynghorydd dros Frithdir, Llanfachreth, Ganllwyd a Llanelltyd, Delyth Lloyd Griffiths: “Mae pawb drwy’r wlad yn siarad am hyn. Mae 1977 o bobl yng Ngwynedd yn colli ar y credyd pensiwn ma. Mae’r golled ariannol i Wynedd yn fawr!
“Os ydych chi’n ffodus o dderbyn cymorth y credyd pensiwn sydd tua £2677, mae modd i chi wedyn, dderbyn budd-dal tai o dros £4,500 y flwyddyn; mae help o £1670 at Dreth y Cyngor ar gael gan Gyngor Gwynedd ac mae £300 ar gael i helpu gyda’r tywydd oer. Dyna’r gefnogaeth sydd ar gael OS ydych chi’n gymwys am y credyd pensiwn. Mae’n hollbwysig i bobl holi Cyllid y Wlad a ydyn nhw’n gymwys ai peidio, neu cysylltwch â Siop Gwynedd, os ydych am gyngor pellach.
Yn ôl y Cynghorydd Dewi Jones, Ward Peblig, Caernarfon: “Sgil effaith llymder y Torïaid ydi hyn, ond waeth i Lafur beidio â chuddio tu ôl i hynny. Cafodd Starmer y cyfle i wneud iawn, ond tydi o heb wneud hynny. Felly llymder Llafur ydi hyn erbyn rŵan. Mae 'na bobl yn fy Ward i sydd wirioneddol yn ei chael hi’n anodd y gaeaf yma a thydi’r Canghellor, Rachel Reeves heb godi bys i helpu’r rhai bregus yn fy ardal i, yr wythnos ddiwethaf.
“Tasa Llafur yn codi treth 2% un waith ar asedau sydd gwerth dros £10 miliwn, bydda nhw’n gallu codi £24 biliwn mewn eiliad i lenwi’r twll du sydd yng nghyllideb y wlad. Ond a ydyn nhw’n ystyried hynny? Nac ydyn siŵr iawn. Colbio’r tlawd a'r anghenus, dyna fydd gwaddol Llafur yn Llundain na, hefyd, beryg iawn.”
Pasiwyd y rhybudd o gynnig o fwyafrif clir, felly mae gohebiaeth gref yn cael ei anfon at Brif Weinidog Lloegr, Kier Starmer, yn holi iddo wyrdroi ei bolisi creulon sy’n gwrthod yr hawl i gefnogi pobl hŷn i dalu am wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter