Wrth siarad am Gronfa Ffynniant Bro Llywodraeth San Steffan cyn cabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos hon, dywedodd arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, Dyfrig Siencyn:
“Rydym yn werthfawrogol o’r arian rydym wedi ei dderbyn o gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan ar gyfer Ardal y Llechi yma yng Ngwynedd.
“Ond, mae holl drefn dyrannu arian ar gyfer buddsoddiadau cymunedol economaidd yn ddi-drefn, di-gyfeiriad ac yn ddibynnol ar fympwy gwleidyddol a gweision sifil yn Llundain.
“Does DIM strategaeth i’r ffordd mae’r arian yn cael ei fuddsoddi, ac yn wir, mae’n mynd yn groes i addewid y Torïaid na fydd “yr un geiniog yn llai” yn dod i Gymru wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Rydym yn colli £1.1 biliwn yng Nghymru dros y dair blynedd nesaf ac mae gwariant awdurdodau lleol y pen wedi gostwng 9.4% yn y deng mlynedd diwethaf. Mae’r Torïaid yn mynd yn groes i gynlluniau sydd wedi eu dylunio gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol, yma yn ein cymunedau.
“Sut allwn ni ddioddef cael ein rheoli gan lywodraeth sydd mor ddi-hid, di-glem a didrefn? Oni ddylai cyllid datblygu economaidd cymunedol gael ei ddyrannu yn ôl yr angen ac nid ei ddosbarthu i ardaloedd cyfoethog fel etholaeth Richmond, Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol?
“Mae’n amser i ni sefyll ar ein traed ein hunain ac mae’n hen bryd i’r blaid Lafur sefyll dros bobl Cymru yng ngwyneb y ffordd sarhaus mae’r Torïaid yn Llundain yn ymdrin â Chymru. Mae’n amser i Lafur hawlio’i lle a mynnu mwy o ddatganoli i Gymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter