Gyda thristwch mawr y mae Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion y Cynghorydd Charles Wyn Jones o Lanrug, Gwynedd. Yn dilyn salwch, bu farw’r Cynghorydd yn yr ysbyty fore Iau, 5 o Dachwedd.
Yn ôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Bu’n fraint fawr cydweithio â Charles ar hyd y blynyddoedd, ac rydym fel cydweithwyr a chyfeillion yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chymuned Llanrug o’i golli.
“Roedd gan Charles angerdd dros Gymru, y Gymraeg a’i ardal. Bu’n Gynghorydd Cymuned Llanrug am flynyddoedd lawer, yn Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Arfon cyn dod yn Gynghorydd Sir yng Ngwynedd yn 1995. Roedd Charles yn ŵr bonheddig, yn ddoeth, yn gefnogol i eraill ac yn drylwyr iawn yn ei waith.
“Fe dreuliodd nifer o flynyddoedd yn cynrychioli Gwynedd ar Awdurdod yr Heddlu ac yna ar banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Bydd bwlch ar ei ôl ond trysorwn yr atgofion lu,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Cynghorydd Charles Wyn Jones (dde) gyda’i gyfaill, y Cynghorydd Selwyn Griffith (chwith) mewn cyfarfod Plaid Cymru Gwynedd
Ategodd Aelod o’r Senedd dros Arfon, Sian Gwenllian: “Gyda thristwch mawr y clywsom am golli’r Cynghorydd Charles Wyn Jones ac mae ein meddyliau heddiw gyda’i deulu a’i ffrindiau. Roedd yn ffrind mawr i ni yn etholaeth Arfon, ac yn weithgar dros ei ardal. Rydym yn teimlo i’r byw dros ei deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn ac yn ddiolchgar am gael ei adnabod.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter