Etholwyd Y Cynghorydd Nia Jeffreys fel arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod yng Nghaernarfon heno (13 Tach 2024). Nia yw arweinydd cyntaf benywaidd grŵp y Blaid yng Ngwynedd ac mae’n Gynghorydd Sir dros Ward Dwyrain Porthmadog ers 2017.
Mae’n camu i rôl arweinydd y grŵp wedi bod yn ddirprwy arweinydd ers 2022 a Nia sydd hefyd wedi cymryd rôl yr arweinydd dros dro yng Nghyngor Gwynedd ers i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn gamu lawr o’i rôl ganol fis Hydref.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael arwain grŵp y Blaid yng Ngwynedd. Dwi’n hynod ddiolchgar i aelodau Grŵp Plaid Cymru Gwynedd am yr ymddiriedaeth maent wedi ei ddangos ynof fi. Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw a bwrw ati gyda’r gwaith dros drigolion Gwynedd.”
“Hoffwn gymryd y cyfle i dalu gwrogaeth i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n edrych ymlaen at gael bwrw ati yn y rôl newydd gydag awch a brwdfrydedd.”
Bydd Cyngor llawn Gwynedd yn cyfarfod ddydd Iau 5 o Ragfyr, lle bydd holl aelodau’r cyngor yn ethol arweinydd newydd i Gyngor Gwynedd. Bydd cabinet Cyngor Gwynedd dan arweiniad Nia Jeffreys yn parhau yn eu roliau nes i’r arweinydd newydd gael eu penodi ar y 5 o Ragfyr.
Plaid Cymru Gwynedd yw’r grŵp mwyaf ar y cyngor, gyda 46 o aelodau yn y grŵp. Yn etholiad 2022, etholwyd y ganran uchaf erioed o gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd ers ei ffurfio yn 1996, sef 64% o’r cynghorwyr. Etholwyd mwy o gynghorwyr ifanc nac erioed o’r blaen ac roedd mwy o ferched yn rhengoedd y grŵp yn sicrhau gwell cynrychiolaeth o’n cymunedau.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter