Y Prif Weinidog i ystyried diwrnod cenedlaethol i ddioddefwyr camdriniaeth rywiol

Yn dilyn trafodaeth yn y Senedd, yn ddiweddar, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i edrych ar roi cefnogaeth swyddogol Llywodraeth Cymru i ymgyrch sy’n tynnu sylw a chydnabod y boen y mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol wedi ei ddioddef yng Nghymru a ledled y byd.

Daw hyn wedi i’r cyngor cyntaf yng Nghymru, Cyngor Gwynedd, bleidleisio o blaid cefnogi ‘Nid Fy Nghywilydd i’ drwy hedfan baner yr ymgyrch uwchben pencadlys y cyngor ar Fai y cyntaf bob blwyddyn i atgoffa cymdeithas nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rywiol, ond cywilydd y troseddwr.

Mae’r grŵp ymgyrch ‘Not My Shame’ yn trefnu’r digwyddiad blynyddol hwn i godi ymwybyddiaeth bod troseddau erchyll fel hyn yn digwydd ac i atgoffa pobl y gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw gymuned.

Daeth Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, â’r drafodaeth i siambr Senedd Cymru a dweud: “Y dioddefwyr sydd ar ein meddyliau pan fyddwn yn clywed am faterion dirdynnol fel camdriniaeth rywiol.

Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru yn ystod y drafodaeth Senedd

“Mae ysgol yn fy etholaeth i yng Ngwynedd wedi dioddef achos echrydus o gamdriniaeth rywiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r troseddwr hwnnw wedi’i garcharu am 17 mlynedd. Mae dewrder y dioddefwyr ifanc dan sylw wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae ‘Not My Shame’ yn ein hatgoffa mai gyda’r troseddwr dylai’r cywilydd eistedd, a fyth ar ysgwyddau’r goroeswyr. Yn aml iawn, mae dioddefwyr trais rhywiol yn dweud eu bod yn cario cywilydd y drosedd yn ogystal â phoen dwfn am weddill eu hoes. Mae’n rhaid i hynny newid.”

Yn dilyn trafodaeth y Senedd, dywedodd Sera Cracroft, Llysgennad ‘Not My Shame’, goroeswr ac actores: “Mae camdriniaeth plant yn rhywiol yn digwydd ym mhob gwlad, ym mhob diwylliant, ac ym mhob haen o gymdeithas ledled y byd. Dwi’n croesawu pob ymdrech i godi ymwybyddiaeth o’r neges bwysig hon. Byddai cefnogaeth Senedd Cymru yn amhrisiadwy ac yn atgyfnerthu’r neges nad cywilydd y goroeswr yw camdriniaeth rywiol ond cywilydd y troseddwr.”

Cytunodd Siân Gwenllian fod ymateb y Prif Weinidog yn galonogol ac y byddai sefyll gyda Chyngor Gwynedd ar y mater pwysig hwn yn datgan neges gref gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Beca Brown a gyflwynodd y cynnig yng Nghyngor Gwynedd ddechrau’r mis: “Mae camdriniaeth rywiol yn chwalu bywydau, yn rhwygo teuluoedd ac yn creithio cymunedau. Gall gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol a gall effeithio ar y gallu i ffurfio perthnasedd da. Gall rhianta effeithiol ynghyd â chyrhaeddiad addysgol ac economaidd hefyd gael eu heffeithio gan gamdriniaeth.

Cynghorydd Llanrug, Beca Brown

“Mae un o bob pedair dynes ac un o bob chwe dyn wedi profi camdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod - ffigurau dirdynnol a allai fod hyd yn oed yn uwch. Mae’r profiadau hyn yn arswydus ac mae’n rhaid iddynt fyw gydag effeithiau’r troseddau erchyll hyn gydol eu hoes.

“Mae goroeswyr camdriniaeth rhywiol yn dweud yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes digon o ymwybyddiaeth o’r trawma y maent yn ei gario gyda nhw drwy eu bywydau. Dyna’r rheswm pam y dylen ni nodi’r cyntaf o Fai, bob blwyddyn, i gofio’r dioddefwyr sy’n ganolog i bob achos o gamdriniaeth. Mae hwn yn un cam i’r cyfeiriad cywir er mwyn codi llais a chreu newid er gwell.”

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Menna Trenholme sy’n arwain ar wasanaethau plant yng Ngwynedd: “Rhaid i mi ddiolch i fy nghydweithwyr Plaid Cymru, y Cynghorydd Beca Brown a Siân Gwenllian AS am eu gwaith ac am dynnu sylw at y pwysigrwydd o roi llais i oroeswyr.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud newid drwy herio’r stigma a’r cywilydd sy’n gysylltiedig â phrofiadau dirdynnol o’r fath. Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan gamdriniaeth rywiol i estyn allan am gymorth.”

Gall plant sydd angen gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol o ganlyniad i gamdriniaeth rywiol neu drais gysylltu â RASASC Gogledd Cymru [Canolfan Gefnogi Trais a Chamdrin Rhywiol Gogledd Cymru] www.rasawales.org.uk/cy/cartref neu ffonio 0808 8010800.

Os ydych yn blentyn sy’n cael ei gam-drin, neu os ydych yn poeni am blentyn sy’n cael ei gam-drin, cysylltwch â thîm cyfeirio Plant Gwynedd: 01758 704455 (rhif allan o oriau: 01248 353551)


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2025-05-23 17:04:45 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns