Deng mlynedd ers cael ei hethol yn Gynghorydd Sir dros Ward Glyder ym Mangor, mae’r Dr Elin Walker Jones yn dathlu’r ffaith bod mwy o ferched, bellach yn rhan o’r tîm y mae hi’n ei lywio fel Cadeirydd bron i 40 o gynghorwyr Plaid Cymru sy’n cynrychioli trigolion Gwynedd.
“Pan gychwynnais i fel cynghorydd sir ddeg mlynedd yn ôl, ces i fraw o weld byd mor wrywaidd oedd byd y cyngor sir,” eglura’r seicolegydd sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr rhan amser.
“Diolch byth, mae pethau wedi gwella, ond mi rydyn ni’n parhau i geisio denu ymgeiswyr amrywiol o wahanol gefndiroedd i ymuno â chriw y Blaid. Mae gweithgor wedi ei sefydlu gennym ni yng Ngwynedd i roi gwell ffocws ar annog a denu mwy o bobl ifanc, merched, unigolion o dras ethnig ag ati i roi eu henwau ymlaen ar gyfer rhestr Etholiad 2022. Mae olyniaeth yn hollbwysig i ni, ac mae gennym sustem fentora i ddal llaw darpar ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn sefyll fel cynghorwyr sir.”
I’r ferch sy’n hanu o sir Gaerfyrddin, dywed mai’r Dr Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yw un o’r dylanwadau gwleidyddol cyntaf arni.
“Roedd yn gyffrous cael cefnogi ymgyrchoedd Gwynfor, yn enwedig fel aelod o blaid ifanc, ac roedd bwrlwm heintus yng Nghaerfyrddin bob amser adeg etholiad!”
Ei waith ysgogodd Elin i ddilyn trywydd gwleidyddol. Enghraifft o’i daliadau fel cynghorydd sir oedd ei llwyddiant diweddar wrth ddenu cefnogaeth Cyngor Gwynedd i alw am gynllun peilot system Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI).
“System gefnogaeth ariannol gan lywodraeth yw ISC sy’n sicrhau incwm sylfaenol i bawb er mwyn creu cymdeithas mwy cyfartal. Mae’r Alban yn ymchwilio yn fanwl i’r posibiliadau. Dylai Cymru wneud yr un modd, yn fy marn i!”
Mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn agwedd bwysig o waith Elin gyda’r Gwasanaeth Iechyd: “Dwi hefyd yn falch o’r ffaith mod i’n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i deuluoedd pan fo bywyd yn heriol, ac yn falch o gyfrannu at sicrhau hawliau cyfartal i siaradwyr Cymraeg ar lefel Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru. Mae strategaeth Mwy Na Geiriau Llywodraeth Cymru yn gosod y safonau cywir ond mae llawer o waith i’w wneud i weld y strategaeth yn cael ei gwireddu.”
Arbenigodd Elin mewn gwaith therapiwtig efo plant awtistig, gan weithio efo’r awdurdod addysg yng Ngwynedd am gyfnod yn ystod blynyddoedd cynnar ei gyrfa. Bu hefyd yn darlithio yn y maes ym Mhrifysgol Bangor, gan gyflwyno’r gwaith a oedd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn cynadleddau rhyngwladol.
“Roedd hi’n fraint fawr cael sôn am ein gwaith efo plant awtistig drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gynulleidfaoedd yn yr Unol Daleithiau America a gwlad Pwyl – mi roeson mi Gymru ar y map.”
Law yn llaw a’i swydd broffesiynol, mentrodd Elin i fyd gwleidyddiaeth, yn dilyn marwolaeth ddisymwth y diweddar Gynghorydd Dai Rees Jones, Bangor yn 2012. Daeth galwad ffôn gan gyn Faer Dinas Bangor, y Cynghorydd John Wynn Jones yn ei hannog i sefyll.
Wedi ennill y sedd, gwelwyd yn fuan iawn nad yw Elin yn un i laesu dwylo. Mae’n weithgar yn ei milltir sgwâr yn dosbarthu pecynnau bwyd i unigolion bregus ei Ward ers i COVID-19 daro Cymru. Mae hefyd yn cefnogi’r Cynghorydd Steve Collings gyda’r cynllun Bwyd i Bawb Bangor a hi hefyd a gydweithiodd i ddenu’r Parkrun, y digwyddiad rhedeg cymunedol wythnosol i Fangor. Elin oedd y cynghorydd a fu’n gwthio am fuddsoddi mewn ysgol newydd i blant y Garnedd, un o’r prosiectau cyntaf iddi afael ynddi, wrth gyrraedd y Cyngor Sir.
“Roedd gweld Ysgol y Garnedd newydd yn agor ym mis Tachwedd 2020 yn un o uchafbwyntiau fy ngwaith fel cynghorydd. Roedd hi’n freuddwyd, ac roedd gweledigaeth gen i a’r cyngor sir i’w gwireddu. I mi, roedd agor y drysau’r diwrnod cyntaf yna'r llynedd yn garreg filltir bwysig i addysg Gymraeg Bangor, dwi’n falch iawn, iawn o’r gwaith.”
Gyda Sul y Mamau ar ein trothwy, mae’r fam i bedwar yn edrych ymlaen am ychydig o faldod dros y penwythnos. Coginio yw un o’i phrif ddiddordebau a’r hyn sy’n ei helpu i ymlacio ac anghofio prysurdeb bywyd. Mae’n loncian, ac newydd ddechrau cerdded mynyddoedd, sy’n broiad heriol gan bod Elin yn ofni uchder!
“Mae pawb yn cydweithio yn tŷ ni, wrth goginio, golchi dillad a chadw trefn er does neb a llawer o ddiddordeb yn y glanhau! Mae Emyr, y gŵr, yn arbennig o weithgar ac wedi fy nghefnogi fi ar hyd y daith fel cynghorydd sir. Byddwn fel teulu, yn falch o ymlacio dros ginio Sul, ar ddydd Sul y Mamau.”
Etholwyd Elin yn Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd bron i dair blynedd yn ôl: “Mae hi’n fraint llywio’r criw, ac rydym ni mor ffodus o gael tîm arbennig o ddawnus yn arwain cymunedau Gwynedd. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac yn falch o osod fy stamp fy hun ar y gwaith. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad 2022, i gysylltu â mi neu un o’r tîm am sgwrs.”
Elin Walker Jones fydd ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd yn Etholiadau Senedd Cymru, 2021.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter