Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn (sy'n y llun):
“Dwi’n gandryll â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw sy’n seiliedig ar adroddiad sy’n dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o sefyllfa wledig o ran defnydd ffyrdd a’r angen dirfawr am swyddi o ansawdd uchel yn un o’r ardaloedd sydd â’r incwm isaf. Mae'n amlwg, unwaith eto, y gellir aberthu ardaloedd gwledig yn wyneb newid hinsawdd tra bo’r gwir broblem a'r atebion yn ein hardaloedd trefol.
“Mae hon yn ergyd drom i'n gobeithion a'n dyheadau ar ran bobl Meirionnydd. Er gwaethaf geiriau teg y Gweinidogion sy'n cynrychioli ardaloedd trefol, nid oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth na chydymdeimlad â'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau gwledig, ac yn amlwg, nid oes ganddynt unrhyw awydd i wella bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yma.
“Mae'r cynnydd posib mewn allyriadau carbon o'r cynllun ffordd newydd yn pylu’n llwyr o'i gymharu â'r allyriadau a'r llygredd mae trigolion Llanbedr yn ei ddioddef dros fisoedd yr haf, pan fydd cannoedd o gerbydau yn sefyll yn stond yn y pentref.
“Ar ben hynny, mae'n ymddangos bod ardaloedd gwledig bellach i’w tynghedu i ddiffeithwch economaidd a chymunedau gwag er budd y rhai sy'n teithio yma, waeth beth fydd eu hallyriadau carbon.
“Nid ydym i gael isadeiledd sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif a rhaid i ni fod yn fodlon â bywyd israddol tra bod y rhai sy’n ein dinasoedd a'n hardaloedd trefol yn elwa o system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon, a mynediad parod at swyddi a gwasanaethau cyhoeddus.
“Dwi’n gwahodd awduron yr adroddiad i ddod i fyw i Feirionnydd, fel y gallant brofi’r realiti o fywyd yma. Dylent ddod i'n cyfarfod i egluro sut y daethant i'w casgliadau diffygiol. Dwi’n anobeithio ein bod, unwaith eto, i ddioddef o agwedd drefol drahaus sy’n rhoi dim sylw i les cymunedau gwledig.
“Byddaf yn parhau i ymladd yn erbyn y penderfyniad hwn a byddaf yn parhau i bwyso ar y Gweinidogion am newid agwedd sylweddol.
Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanbedr, Annwen Hughes (sy'n y llun):
“Ces sioc o glywed y newyddion siomedig yma heddiw. Dwi’n teimlo bod cymuned Llanbedr a'r ardal wedi cael eu camarwain yn llwyr gan Lywodraeth Cymru.
“Roedd ein trafodaethau gyda’r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf yn gadarnhaol. Codwyd ein gobeithion y byddai ffordd osgoi Llanbedr yn cael ei gwireddu, ond heddiw mae'r gobeithion hynny wedi eu chwalu. Mae'n ergyd drom i’r ardal.
“Lle mae hyn yn gadael ein cymuned? Beth ddaw o’n heconomi leol? Pa effaith gaiff hyn ar safle Maes Awyr y Llywodraeth ei hun, yn Llanbedr, a'r potensial yno i greu swyddi i bobl leol?
“Mae’n teimlo fel petae ni wedi cael ein bradychu gan ein Llywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd. Dylai eu pryderon ynghylch yr hinsawdd hefyd ymwneud â phryderon am iechyd, lles a rhagolygon ein cymuned wledig yma yn Llanbedr.
“Byddwn yn parhau i wrthwynebu’r penderfyniad ac yn pwyso ar y Gweinidogion i ail edrych ar y mater.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter