“Mae’r cyhoeddiad ddaeth ddoe gan gwmni Northwood yn ergyd drom i Benygroes, i Ddyffryn Nantlle ac i Wynedd gyfan. Daeth y cyhoeddiad yn sioc lwyr i’r gweithwyr wrth iddynt gyrraedd i’r gwaith ddoe (26 Mai) i ddechrau ar eu shifft. Clec enfawr i’r staff a’u teuluoedd a siom wedi blynyddoedd o weithio triw a chydwybodol i gwmni o’r fath," meddai'r Cynghorydd Judith Humphreys (a welir yn y llun).
"Rŵan mae’r gwaith yn dechrau wrth i ni gydweithio fel gwleidyddion i chwilio am atebion, i gefnogi staff ac i geisio agor y drws ar drafodaethau uniongyrchol gyda’r cwmni i weld a oes unrhyw ffordd y gellir adennill tir.
"Rydym eisoes yn ymwybodol o’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i gwmnïau ar gyfer cyflogaeth staff dros gyfnod Covid-19 a bod cefnogaeth bellach ar gael i gwmnïau ar ffurf grantiau a benthyciadau. Fe wnawn yn sicr bod y cwmni’n llwyr ymwybodol o’r holl opsiynau sydd ar gael iddynt.
"Mae anghrediniaeth yn lleol hefyd bod cwmni sy’n gwerthu nwyddau glendid proffesiynol a chlytiau sychu sydd wedi bod o dan ei sang gyda gwaith, yn methu mewn cyfnod lle mae’r sector wedi tyfu, yn ystod pandemig o’r fath.
"Mae trafodaethau brys wedi cychwyn rhwng fy nghyd Bleidwyr yn Arfon, Siân Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru a Hywel Williams, AS San Steffan a chydag Adran yr Economi yng Nghyngor Gwynedd. Mae cyswllt brys hefyd wedi ei wneud â Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates. Byddaf yn troi pob carreg yn y dasg o ddod o hyd i atebion adeiladol, tra ar yr un pryd yn cefnogi’r gweithwyr a’u teuluoedd yn yr ardal.
"Mae colli cyflogaeth 94 o bobl yn Nyffryn Nantlle yn newyddion dirdynnol. Fy nghyfrifoldeb i fydd holi’r cwestiynau cywir ar eu rhan ac estyn llaw i’w cefnogi dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter