Ymwelydd yn diolch am ofal ac ymroddiad holl staff Ysgol Hafod Lon

Daeth ymwelydd arbennig i Ysgol Hafod lon, Penrhyndeudraeth yn ddiweddar, un o ddwy ysgol arbennig Gwynedd. Y Cynghorydd Paul Rowlinson, arweinydd addysg cabinet Gwynedd aeth draw i weld y disgyblion a’r staff sy’n sicrhau addysg i ddisgyblion o 3 i 19 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ar wahoddiad y Cynghorydd Gwynfor Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Hafod Lon.

“Cawson ni groeso arbennig iawn gan bawb,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru, Paul Rowlinson, “ac roedd hi’n bleser ac yn fraint gweld y gwaith mae pawb yn ei gyflawni yn yr ysgol sydd â hanes hir o fewn y sir o gynnig profiadau amhrisiadwy i’r disgyblion a’u teuluoedd.

“Ces i gyfle hefyd i drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg arbennig gyda’r Pennaeth, Donna Roberts (sydd yn y llun gyda'r Cynghorwyr Gwynfor Owen a Paul Rowlinson) a’i dirprwy, Deio Brunelli.

Symudodd Hafod Lon i’r adeilad presennol yn 2016, ac mae nifer y disgyblion wedi cynyddu dros y cyfnod a dwyster anghenion y plant hefyd wedi esblygu.

“Roedd hi’n braf cyfarfod â rhai o’r staff a diolch iddynt am y gofal a’r ymroddiad maent yn ei roi i’r disgyblion er mwyn sicrhau ysgol hapus ac effeithiol sy’n cydymffurfio â gofynion y cwricwlwm. Mae eu gwaith yn hyrwyddo annibyniaeth y disgyblion a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson.

“Mae pob ysgol heddiw yn wynebu heriau ond wrth gwrs mae'r sector anghenion ychwanegol yn wynebu heriau penodol iawn. Rydym fel Cyngor yn cymryd ein dyletswydd o’r sector yma, o ddifri, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i hwyluso a chynorthwyo’r staff, y disgyblion a’u teuluoedd.

“Yng nghyllideb San Steffan bythefnos yn ôl, dyrannodd y Canghellor £1 biliwn ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr, gan gydnabod y pwysau cynyddol ar y sector. Wrth i’r sylw droi at gyllideb Llywodraeth Cymru nawr, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod ein hysgolion yng Nghymru yn derbyn yr adnoddau y maent eu hangen.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwynfor Owen, Cadeirydd Llywodraethwyr Hafod Lon: “Ron i’n hynod falch o allu croesawu’r aelod cabinet addysg i'r ysgol. Dwi’n gwerthfawrogi ei amser ac am gadarnhau ymrwymiad y cyngor i geisio’r gorau i'r plant a’i teuluoedd yma yn Hafod Lon.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2024-11-26 16:28:56 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns