Wedi problemau gyda safon dŵr mewn afonydd yn ardal Penllyn, mae croeso mawr i’r newyddion bod Dŵr Cymru yn dechrau ar y gwaith o fuddsoddi yn safle trin gwastraff Y Bala, y mis hwn.
Ers peth amser, mae datblygiadau yn nhref Y Bala wedi dod i stop oherwydd pryderon bod lefel uchel o ffosffad yn yr afonydd, sy’n andwyol i’r amgylchedd. Gan bod yr ardal o gwmpas Afon Dyfrdwy yn ardal o gadwraeth arbennig, roedd yr awdurdodau yn methu caniatáu ceisiadau cynllunio i godi tai, adeiladau a buddsoddiadau eraill yn yr ardal oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd.
Yn ôl Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros y dref, Dilwyn Morgan: “Cefais i a’m cyd-gynghorwyr ymweliad safle gyda’r Bwrdd Dŵr rhyw chwe mis yn ôl er mwyn trafod oblygiadau’r problemau a chlywed am y datrysiadau oedd ar y gweill. Mae’n newyddion arbennig o dda bod buddsoddiad o £6 miliwn yn digwydd yn y safle trin gwastraff dros y gaeaf.
“Bydd y buddsoddiad gan Dŵr Cymru yn cynyddu’r capasiti a'r gallu i drin gwastraff y dref, a dwi’n sicr y bydd cwblhau’r gwaith dros yr 20 mis nesaf yn gam mawr ymlaen i'r gymuned, i ddatblygiadau ac i'r amgylchedd lleol.
Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Edwards, Llandderfel: “Yn amgylcheddol, bydd y gwaith yn helpu i wella ansawdd dŵr yr afon a fydd yn ei dro yn hwb i fywyd gwyllt ardal Penllyn. Mae hefyd o fudd i’r gymuned wrth sicrhau y bydd y safle â’r gallu i drin gwastraff, yn wyneb unrhyw dwf mewn poblogaeth, i’r dyfodol.
Bydd gwaith ar y safle yn dechrau ganol mis Tachwedd, a bydd yn cynnwys uwchraddio a gosod asedau ac offer newydd ar y safle i gynyddu faint o ddŵr gwastraff gaiff ei drin yn y ganolfan.
“Mae’n newyddion arbennig o dda i’r ardal,” meddai Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanuwchllyn, Alan Jones Evans, un arall a fu’n rhan o’r daith i ymweld â’r safle.
“Roeddem wedi treulio cyfnod o amser gyda dyfodol economaidd Y Bala a Phenllyn ar stop oherwydd yr heriau oedd yn wynebu’r dref gyda’r ganolfan wastraff dŵr yn ei ffurf bresennol. Dwi’n hynod o falch bod y buddsoddiad yn digwydd a gall y gymuned leol a busnesau’r dref edrych ymlaen at ddyfodol mwy llewyrchus.”
Mott McDonald Bentley, sydd hefyd ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i adeiladu gorlifan ategol newydd yn Llyn Celyn sydd â’r cytundeb gan Dŵr Cymru i sicrhau’r gwaith. Bydd ardal gompownd yn y cae drws nesaf i’r safle a bydd y tîm yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm (efallai y bydd angen gweithio’n hwyrach ac ar benwythnosau ar rai adegau o’r prosiect).
Am ddiweddariadau i drigolion yr ardal, ewch i’r wefan www.dwrcymru.com/YnEichArdal
Diwedd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter