Y Blaid yn estyn llaw yng Ngwynedd yr haf hwn i gefnogi teuluoedd bregus

Mewn cyfarfod arbennig o gabinet y Blaid yng Ngwynedd heddiw, cyflwynwyd mater brys i’r aelodau etholedig ystyried cefnogi teuluoedd sy’n wynebu heriau dros gyfnod y gwyliau haf.

Gyda chwta fis i fynd cyn diwedd y flwyddyn ysgol, cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd na fyddent yn cefnogi teuluoedd trwy gynnig taliadau tuag at brydau bwyd plant dros gyfnod gwyliau’r haf eleni.

“Dwi’n ofnadwy o siomedig yn y Llywodraeth yng Nghaerdydd,” meddai’r cynghorydd sydd â chyfrifoldeb dros addysg yng Ngwynedd, Beca Brown.

“Mae’r ysgol yn cau i nifer heddiw, ac ma cyhoeddiad fel hyn llai na mis cyn diwedd y tymor, yn sicr o fod wedi ysgwyd rhieni sy’n cael prydau ysgol am ddim, ac oedd eisoes yn pryderu am y costau o gynnal eu teuluoedd dros gyfnod yr haf.

“Dwi’n cywilyddio ein bod ni fel cymdeithas yn yr 21Ganrif yn y fath sefyllfa o orfod poeni am fwydo a dilladu plant. Dyma effaith go iawn llymder y Torïaid trahaus yn Llundain dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf ar gymunedau Cymru.

“Dwi’n falch heddiw o fod yn Gynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd sy’n gweithredu ar ran ein cymunedau. Trwy drafod gyda fy nghyd-aelodau, rydym, fel cabinet, wedi cyfarwyddo i swyddogion ryddhau £316,000 o falansau’r cyngor, i gefnogi teuluoedd incwm isel Gwynedd.

Dros yr haf hwn, bydd rhieni bron i 3,000 o blant a phobl ifanc sy’n cael cinio ysgol am ddim, yn ysgolion cynradd ac uwchradd Gwynedd yn gallu hawlio cefnogaeth o £3.90 y dydd, i brynu bwyd.

“Estyn llaw ydyn ni, wnaiff o ddim datrys bob problem, ond mae’n mynd peth o’r ffordd i helpu,” meddai’r Cynghorydd.

Fel un sy’n weithgar yng nghynllun bwyd ardal Llanrug, a banc bwyd ardal Cwm-y-Glo yn wythnosol, mae’r Cynghorydd Beca Brown yn llwyr ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu teuluoedd. Trwy gydweithio â FairShare ym Mangor, mae bwyd yn cael ei gasglu, ei ddidol a’i becynnu yng Nghwm-y-Glo gan gynghorwyr a gwirfoddolwyr gweithgar o’r gymuned bob wythnos, cyn dosbarthu’r pecynnau bwyd i stepen drws nifer yn y cymunedau.

Mae’r Cynghorydd hefyd yn trefnu derbyn a dosbarthu gwisgoedd ysgol dros gyfnod yr haf, i geisio ail ddefnyddio dilladach yn hytrach na thaflu a chreu gwastraff dianghenraid. Mae hefyd yn lleihau’r pwysau ariannol sydd ar deuluoedd i brynu gwisgoedd ysgol newydd. 

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Y Blaid yng Ngwynedd: “I ni fel cabinet Plaid Cymru Gwynedd, roedd hwn yn benderfyniad hawdd - darganfod yr arian i gefnogi’n teuluoedd sydd wedi eu diystyru gan ein Llywodraeth.

“Un o’n mesurau yn unig yw hwn. Mae cefnogaeth o bob math ar gael gennym i roi help llaw i drigolion sy’n ei chael hi’n anodd, ac mae’r wybodaeth yna ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd. Os oes unrhyw un yn pryderu am golli eu cartref, angen help gyda budd-daliadau, yn methu talu treth y cyngor ag ati, mae na help ar gael. Does dim cywilydd cysylltu i holi am gymorth - da chi, gwnewch!

“Dwi’n falch o’r gwaith mae nifer o’m cyd-gynghorwyr a gwirfoddolwyr gweithgar yn ei wneud yn gyson ar lawr gwlad. Gadewch i ni gefnogi’n gilydd a diolch am gymunedau clos Cymreig sy’n parhau i ofalu am ei gilydd,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Anogir teuluoedd sy’n derbyn cinio ysgol am ddim i gysylltu â’r Adran Addysg trwy wefan y cyngor www.gwynedd.llyw.cymru neu ffonio ar 01286 685047 i wneud cais am y gefnogaeth.

Am help gyda’r argyfwng costau byw ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Joshua Roberts
    published this page in Newyddion 2023-07-25 16:30:40 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns