183 o dai Gwynedd yn ôl i ddefnydd, diolch i bremiwm ail gartrefi

Dros y tair blynedd diwethaf, mae teuluoedd ac unigolion wedi dod â 183 o dai Gwynedd yn ôl i ddefnydd, trwy grantiau o ganlyniad i’r premiwm 50% ar ail gartrefi sef cyfanswm buddsoddiad ariannol o bron i £3.5 miliwn.

Yn ôl dirprwy arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Mae pobl leol yn ymwybodol ein bod yn wynebu argyfwng o fewn y farchnad dai, yma yng Ngwynedd, fel y mae nifer o siroedd eraill yng Nghymru.

“Mae’r farchnad dai wedi mynd allan o reolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd mawr mewn prisiau tai. Mae tai yn gwerthu’n fuan iawn ar ôl iddynt fynd ar y farchnad, yn aml yn cael eu prynu ag arian parod. Mae'n amlwg bod nifer fawr yn cael eu prynu fel ail gartrefi, llefydd i bobl ddianc o ardaloedd poblog ac ymweld â nhw yn achlysurol yn ystod y flwyddyn.

“Mae’n bwysig hefyd ein bod yn sicrhau bod tai gweigion o fewn y sir, yn dod yn ôl i ddefnydd pobl ifanc a theuluoedd. Ar hyn o bryd, mae 1,130 o eiddo gwag hir dymor yng Ngwynedd tra bod yr angen am dai yng Ngwynedd yn aruthrol - mae 2700 o bobl yn aros ar restr tai cymdeithasol y Cyngor

“Mae’r ffactorau gyda’i gilydd yn atal pobl ifanc rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo neu i rentu tai o safon. Y peth pwysicaf i ni, fel gwleidyddion Plaid Cymru Gwynedd, yw cefnogi person lleol i ddod o hyd i'w g/chartref cyfforddus ac addas.”

Un enghraifft o gwpl lleol sydd newydd fentro ar yr ysgol eiddo yw Elliw Geraint Hughes, 23 a Cai Llywelyn Gruffydd, 25 o Arfon (prif lun, uchod).

Yn ôl Elliw, sy’n gweithio fel Therapydd Galwedigaethol i Betsi Cadwaladr ac a fagwyd yn Neiniolen: “Rydyn ni’n gyffrous iawn o fod wedi prynu ein cartref cyntaf cyn y Nadolig. Eiddo gwag oedd y tŷ rydyn ni wedi ei brynu yn ardal Twthill, Caernarfon.

“Buon ni’n chwilio am dŷ ers dwy flynedd a’r penderfyniad wnaethon ni, oedd mai tŷ fyddai angen gwaith arno, fyddai’n ein siwtio ni orau. Mi fydden ni’n gallu gweithio arno, yn ein pwysau, a buddsoddi ynddo dros gyfnod o amser.

“O glywed am drafodaethau Cyngor Gwynedd yn ddiweddar, mi fyddwn ni’n sicr o ymchwilio i unrhyw gefnogaeth grantiau neu fenthyciadau fydd ar gael i ni, wrth i ni weithio ar ein cartref cyntaf. Bydd pob ceiniog o gefnogaeth o gymorth i ni, wrthi i ni wreiddio yng Nghaernarfon a pharhau i fyw a gweithio yn y sir lle’n magwyd ni’n dau.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gwynedd, dan arweiniad y Blaid, ei gynllun gweithredu tai uchelgeisiol gwerth £77 miliwn, lle mae ffocws clir ar ddarparu cartrefi o safon sy’n daer eu hangen i bobl Gwynedd. Mae o leiaf £22.9 miliwn o’r gyllideb honno yn dod o’r premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag.

Gwelodd adroddiad manwl a ryddhawyd ym mis Rhagfyr gan yr adran gynllunio fod 8% o’r stoc dai yng Ngwynedd bellach yn ail dai, gyda 60% o bobl leol yng Ngwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig (llun isod): “Mae derbyn cadarnhad bod Cyngor Gwynedd yn fodlon gweithredu er lles trigolion Gwynedd, yn un gref. Un o’n hegwyddorion creiddiol ni fel plaid yw sicrhau cyfartaledd cymdeithasol, felly mae ein ffocws ni yn ymroi i gartrefu pobl Gwynedd, boed hynny i brynu neu rentu cartref.”

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd, dan arweiniad Plaid Cymru, y premiwm treth y cyngor ar gyfer perchnogion ail dai nôl ym mis Ebrill 2018, gan godi premiwm o 50% ar y dreth cyngor.

Ym mis Rhagfyr llynedd, holodd Plaid Cymru Gwynedd i swyddogion y Cyngor ymgynghori ar gynyddu premiwm ail gartrefi o 50% i 100%. Trafododd y cabinet yr ymgynghoriad a chynnig argymhelliad i’r cyngor llawn ddechrau Mawrth eleni i godi’r premiwm o 50% i 100%. Cytunodd y cyngor llawn i weithredu’r polisi.

Bydd y premiwm yn weithredol o’r 1 o Ebrill 2021.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2021-03-12 08:55:53 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns