“Gweithredu wastad yn rhan ohonai” medd Elin Hywel, Cynghorydd Pwllheli

Does dim llawer o bobl yn gallu dweud iddyn nhw ysgogi’r gymuned a hwyluso i brynu adeilad cymunedol yn y dre dros nos, ond i un cynghorydd newydd o Bwllheli, dyna un o’i champau ers cael ei hethol yn gynghorydd sir flwyddyn yn ôl.

Mae’r Cynghorydd Elin Hywel o Bwllheli wedi ei magu yng nghysgod gweithredu, ei mam yn ysbrydoliaeth fawr iddi fel gwraig yn gweithio’n galed a mynnu bob cyfle i gyrraedd potensial a gwneud y mwyaf o’i sefyllfa a’i gyrfa fel cyfrifydd llwyddiannus. A’i thad yn Aelod Seneddol dros Arfon.

“Mae Dad wedi cymryd amser i wrando a chlywed pobl yn dweud eu hanes, bob tro. Fel plentyn, roedd hi’n amhosib mynd i unrhyw le ar frys, ond mae’r natur garedig honno wedi bod yn ysbrydoliaeth arbennig i mi.”

Mae ganddi gof o blentyndod yn ymgyrchu, yn gweiddi am gyfiawnder iaith a chymunedol a bu’r dylanwad arni, o ganlyniad, yn fawr.

“Mae gweithredu wastad wedi bod yn rhan ohonai,” eglura’r Cynghorydd Elin Hywel. “Dwi’n credu bod gweithio yn wleidyddol yn rhan greiddiol o’r gweithredu yma, ac mae’n fraint o’r mwyaf cael gwneud hyn fel Cynghorydd Sir dros fy nghymuned. Ond rhaid cofio dechrau wrth ein traed a bod gweithredu o fewn ein cymunedau er mwyn ein cymunedau, yn hanfodol bwysig.”

A dyna’n union mae Elin, 41, yn ei wneud yn ddyddiol erbyn hyn a hithau’n Gynghorydd Sir dros Blaid Cymru blwyddyn yn cynrychioli trigolion Gogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd.

Mae tynnu pobl ynghyd i gydweithio yn bwysig iddi a chyda phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref, yn ddiweddar, mae Elin wedi bod yn greiddiol wrth dynnu gwahanol adrannau o’r cyngor sir, yr heddlu a gwleidyddion at ei gilydd, er mwyn rhoi cynlluniau ar waith i daclo’r heriau sy’n wynebu trefi glan môr y gogledd, fel Pwllheli.

Hwyluso prynu adeilad oedd ar werth ar stryd fawr Pwllheli ‘Y Tŵr’ ydi un o dasgau mawr eraill y Cynghorydd ers cael ei hethol. Pan ddaeth yr adeilad ar werth, roedd cryn bryder y byddai’n cael ei brynu a’i droi yn adeilad arall na fyddai’n addas i’r gymuned ar Stryd Fawr Pwllheli. Daeth criw bach ynghyd, dechrau rhannu’r newydd am yr adeilad a thros nos, llwyddwyd i godi £60,000 gan y gymuned i brynu’r adeilad cyn ei golli i ddwylo preifat.

“Prosiect cwbl gymunedol ydi hwn, ac mae na 60 o bobl yn rhan o’r grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol, 20 ar y pwyllgor a phump neu chwech yn mynd i fod yn gyfarwyddwyr ar y cwmni newydd fydd yn gweithredu’r prosiect.

“Roedd na awydd i weithredu ar lawr gwlad ac er i’r syniad fod yn rhywbeth oeddan ni’n meddwl oedd allan o’n cyrraedd ni ar y dechrau, dwi’n rhyfeddu i ni lwyddo i ddiogelu’r adeilad gan godi’r ffasiwn arian dros nos! Mae’n diolch ni’n enfawr i bawb fu’n cydweithio. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn, ond mae’n ddechrau cadarnhaol i’r dre ac i’r gymuned.”

Mae profiad gyrfa Elin o weithio fel cyfrifydd gyda busnesau bychain ar draws Gwynedd, ac yna datblygu ei harbenigedd i weithio gyda mentrau cymunedol ac elusennau, wrth barhau i weithredu o fewn y byd gwleidyddol, wedi rhoi sgiliau arbennig iddi i ymgymryd â’i rôl fel cynghorydd. Mae wedi ymgyrchu gyda grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith, Undod, Siarter Cyfiawnder Cartrefi Cymru ac eraill dros y blynyddoedd.

Mae’n byw, gyda’i gŵr a’i tri o blant, yng nghanol tref Pwllheli.

“Mae gweithio’n hyblyg yn sicr yn help i ni allu cyrraedd anghenion pawb yn ein tŷ ni – boed yn gyfarfod i mi neu James, neu yn glybiau chwaraeon y plant. Mae cyfarfodydd digidol hefyd wedi bod yn fanteisiol i’r gwaith. Mae bod yn rhan o’r gymuned yma ym Mhwllheli a cheisio gwneud gwahaniaeth i fywydau bobl yn hollbwysig i ni, fel teulu.”

I dref fel Pwllheli gyda rhan ohoni wedi ei adeiladu ar orlifdir, fydd adeiladu tai byth yn bwnc hawdd i’w ddatrys. Ond, fel nifer o gymunedau eraill yng Ngwynedd, mae tai a diffyg tai fforddiadwy i bobl leol yn broblem.

“Mae’n dorcalonnus siarad gyda thrigolion, rhai yn gyfoedion i mi, sy’n gweithio’n galed mewn swyddi da ac yn magu plant sydd methu parhau i fyw yma yn eu cymuned. Mae rhai, yn wynebu digartrefedd. Ac mae realiti hynny yn eithriadol o anodd. Mae angen newid diwylliant, angen newid polisïau ar lefel cenedlaethol, sicrhau ymyrraeth yn y farchnad dai yn genedlaethol ac angen buddsoddiad go iawn yn y maes. Dyw honna ddim yn broblem sy’n mynd i gael ei datrys dros nos, yn anffodus.

“Mae’r £6 miliwn i ddelio gyda digartrefedd ledled y sir yn bwnc rydyn ni wedi bod yn ei drafod yn y cyngor sir. Mae na gyfnod heriol iawn o’n blaenau ni. Rhaid newid ffocws i bwysleisio anghenion cymunedol yn gyntaf tra ar yr un pryd sicrhau bod gwasanaethau ar gael i helpu unigolion sy’n gweld eu hunain yn cyrraedd sefyllfa o fod heb gartref. Dwi’n benderfynol o wneud popeth y galla fi, i leddfu sgil effeithiau'r argyfwng yma, lle bynnag mae’r gallu gennym ni, fel cyngor, i wneud hynny.”

Un pwnc sy’n codi calon Elin yw ymateb bobl ifanc tref Pwllheli i’w hardal. Ym mis Rhagfyr llynedd, cyflwynodd bobl ifanc y dref lythyr i Elin yn holi am ei chymorth i dynnu sylw’r Cyngor Tref at ddiffyg cyfleusterau iddynt yn y dref. Yn eu llythyr maent yn siarad am eu hawydd i gyfrannu’n bositif ac i fod yn weithgar o fewn eu cymuned.

“Mae sgwrsio efo pobl ifanc sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn bŵer grymus iawn. Maen nhw’n llawn canmoliaeth i’w gweithiwr ieuenctid, Andrew Owen, sydd wedi ennill gwobr genedlaethol am ei waith llynedd. Ond wrth gwrs, gyda thoriadau, mae na effaith ar beth mae’r gwasanaeth yn ganolog yn gallu ei chynnig. Gobeithio y gallaf gydweithio â nhw i symud pethau o fewn y dref gydag arweiniad y Cyngor Tref.”

I'r ferch a fagwyd drwy ei blynyddoedd cynnar yn Rhos Lan cyn symud i Bwllheli yn 16 oed, mae’r dref a’i phobl yn agos iawn at ei chalon. Mae wedi byw yn Llundain a Lerpwl, ac wedi teithio a chael profiadau addysgol a byd gwaith gwerthfawr ar hyd a lled y byd.

“I mi, mae datblygu economi lleol sy’n gweithredu yn gymunedol, gan dynnu pobl, cwmnïau a sefydliadau at ei gilydd i gydweithio yn wers bwysig dwi wedi ei dysgu dros y blynyddoedd. Dwi wedi, ac yn parhau i weithio gydag ystod eang o elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymunedol a dwi wedi datblygu dealltwriaeth ddwys am sut i ddefnyddio fy sgiliau busnes a’m sgiliau creadigol o fewn cymunedau i greu llewyrch.

“Dyma’r ffordd y cawn gymunedau llewyrchus ac annibynnol. Yn fy marn i, dyma’r ffordd orau un i adeiladu gwlad sydd wir yn annibynnol a llwyddiannus, gwlad sy’n gwneud y gorau dros ei thrigolion.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Joshua Roberts
    published this page in Newyddion 2023-06-06 16:33:48 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns