Mae Cynghorydd Plaid Cymru Nia Jeffreys o Borthmadog wedi ei phenodi yn Aelod Cabinet newydd gan Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Bydd y Cynghorydd Jeffreys, sy’n cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog ar y Cyngor yn Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol gyda chyfrifoldeb am faterion Cefnogaeth Gorfforaethol, Llywodraethu Corfforaethol a Gwasanaethau Cyfreithiol. Ers cael ei hethol ar Gyngor Gwynedd, mae hi wedi bod yn aelod o bwyllgor Gwasanaethau democrataidd ac yn is-gadeirydd pwyllgor craffu addysg ac economi’r Cyngor.
Mynychodd y Cynghorydd Jeffreys Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, ac ers hynny mae hi wedi byw dramor, yn Llundain a Chaerdydd yn dilyn gyrfa llwyddiannus ym maes cyfathrebu – gan weithio i gyrff preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, cyn dychwelyd i Wynedd. Dechreuodd ei gyrfa yn Nhŷ’r Cyffredin yn gweithio i Dafydd Wigley AS, cyn symud i weithio i Nwy Prydain, elusen Chwarae Teg ac yna Asthma UK Cymru fel cyfarwyddydd cenelaethol dros Gymru. Mae bellach yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae hi’n aelod o Gyngor Tref Porthmadog a’r grŵp lleol CaruPort ac yn cymryd rôl weithgar yn hyrwyddo’r dref.
Ar ei phenodiad, meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mi ges i fy nwyn i fyny yg Ngwynedd, felly mae’n anrhydedd mawr i mi wasanaethu ar y Cabinet. Rydw i’n edrych ymlaen i’r heriau sydd i ddod ac yn add oi weithio’n ddiflino dros bobl Gwynedd.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydw i’n hynod falch o groesawu’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn aelod o Gabinet Plaid Cymru Cyngor Gwynedd. Yn sicr, mi fydd gan Nia sgiliau a phrofiadau fydd yn gaffaeliad mawr i ni fel tîm ac mae ei brwdfrydedd i sicrhau’r gorau dros bobl Gwynedd yn amlwg i bawb.”
Mae’r penodiad yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Mair Rowlands i sefyll i lawr o’i rôl ar Gabinet y Cyngor wedi iddi gael ei phenodi i swydd newydd yn Cyfarwyddo Undeb Myfyrwyr Bangor.
LLUN: Y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cael ei chroesawu fel Aelod Cabinet Gwynedd newydd gan Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter