Ail-ethol Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd

Ail-etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd ar Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod ym Mhorthmadog neithiwr (8 Mai 2022). Mae Dyfrig Siencyn, sy’n Gynghorydd Sir dros Ward Gogledd Dolgellau, wedi bod yn llwyddiannus yn ei rôl fel Arweinydd y Grŵp ac Arweinydd Cyngor Gwynedd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Yn etholiadau Mai 5ed, llwyddodd Plaid Cymru Gwynedd i sicrhau mwyafrif clir er mwyn parhau i arwain y cyngor sir dros y bum mlynedd nesaf. Etholwyd y ganran uchaf erioed o Gynghorwyr Plaid Cymru i Wynedd ers ffurfio’r Cyngor ar ei wedd bresennol yn 1996, sef 64% o’r holl gynghorwyr.

Bydd gan y Blaid 44 o Gynghorwyr yn wardiau Cyngor Gwynedd, cynnydd o’r ffigwr o 41 oedd gan y Blaid yn dilyn Etholiad 2017.

Yn ôl Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ethol unwaith eto i swydd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd - rwy’n ddiolchgar i bobl Dolgellau am fy ail-ethol ac i aelodau Grŵp y Blaid am roi eu ffydd ynddo i. Mae hi’n swydd bwysig sy’n gosod y sylfaen ar gyfer y gwaith caboledig sy’n cael ei wneud o fewn Gwynedd gan dîm cyfan o Gynghorwyr, staff, Aelodau Seneddol, gwirfoddolwyr a chymunedau. Mae gan Blaid Cymru weledigaeth a chyfraniad sylweddol i’w gwneud, nid yn unig i ddyfodol y sir yma, ond i ddyfodol Cymru a'r Gymraeg hefyd.

“Estynnwn groeso twymgalon i’r 19 Cynghorydd newydd Plaid Cymru. Rwyf yn hynod falch bod cynifer o ferched bellach yn rhan o’n tîm (19) a hefyd bod gennym fwy o wynebau ifanc nag erioed o’r blaen. Mae teimlad cadarnhaol ymysg y Grŵp; llawer o waed newydd, brwdfrydedd a syniadau newydd – ond hefyd llawer o brofiad - rwy’n edrych ymlaen yn arw at sicrhau fod llais pob un aelod o’n tîm ni yn cael ei glywed/ei chlywed. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i fod yn uchelgeisiol dros ein cymunedau gan sicrhau tegwch i’n trigolion.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r ymgeiswyr wnaeth sefyll yn enw’r Blaid ond bu fethu allan yn yr etholiad y tro hwn - rhai o drwch blewyn. Rydym wir yn gwerthfawrogi’ch ymdrechion. Hefyd, rwyf yn awyddus iawn i nodi cyfraniad aruthrol y Cynghorwyr profiadol sydd wedi sefyll i lawr; diolch iddynt am eu gwaith diflino dros nifer o flynyddoedd o blaid eu cymunedau, eu sir a’u gwlad.

“Mae llawer o waith i’w wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at gael y maen i’r wal er mwyn gweithredu dros bobl Gwynedd a sicrhau sir hyderus, ofalgar a ffyniannus. YMLAEN!”

Bydd grŵp y Blaid yn enwebu’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn i swydd Arweinydd Cyngor Gwynedd yng nghyfarfod y Cyngor llawn yng Nghaernarfon ddydd Iau'r 19 o Fai 2022.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2022-05-11 14:21:17 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns