“Fel cyngor, dwi’n awyddus i holl wleidyddion Gwynedd estyn croeso cynnes i ffoaduriaid sy'n cyrraedd Gwynedd o Afghanistan, ac o fannau eraill. Dwi hefyd yn holi am gefnogaeth cynghorwyr i gydnabod hawl sylfaenol pobl i ffoi rhag trais ac erledigaeth ac yn gofyn iddynt gefnogi fy mhryderon ynghylch ‘Cynllun Newydd Mewnfudo’ Llywodraeth San Steffan,” dyna eiriau’r Cynghorydd dros Ward Menai, Bangor, Catrin Wager (yn y llun) wrth iddi roi cynnig o flaen cyngor llawn Gwynedd heddiw (7 Hydref).
“Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei gwneud hi’n anghyfreithlon i bobl gyrraedd y DU heb ganiatâd. Wrth ystyried bod ffoaduriaid, yn aml, yn gorfod ffoi o’u cartrefi yn gyflym, nid yw’n ymarferol nac yn realistig ystyried gwaith papur a chaniatâd cyn iddynt adael. Mae risg gwirioneddol y bydd Llywodraeth San Steffan yn tynnu nôl o’i hymrwymiadau rhyngwladol, trwy Gonfensiwn Ffoaduriaid 1951 a deddfwriaethau eraill, sy’n cydnabod hawl unigolion i geisio lloches ac osgoi erledigaeth mewn gwledydd eraill.
“Mae’n bryder mawr i mi fod y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau arfaethedig yn ei hanfod, yn nodi y gellid dwyn achos troseddol yn erbyn y rhai sy’n ceisio lloches ac, o bosib, dwyn achos troseddol yn erbyn sefydliadau fel Bad Achub yr RNLI, am achub bywydau ffoaduriaid ar y môr.
“Rydyn ni gyd wedi gweld y lluniau erchyll ar ein sgriniau o unigolion a theuluoedd, yn mentro bywydau eu plant a’u babanod ar gychod bychain, trwy geisio dianc o afael gormes a thrais rhyfel. Fel bodau dynol, allwn ni ddim gadael i gasineb gwleidyddion Torïaidd greu’r ffasiwn ddeddf. Mae gennym gyfrifoldeb moesol i amddiffyn a gofalu am ein cyd-ddyn, a hynny mewn cyfnod argyfyngus yn eu bywydau.”
Mae Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Catrin Wager, wedi bod yn ymwneud â chasglu nwyddau gyda’r grŵp gwirfoddol ‘Pobl i Bobl’, ers ei sefydlu yn 2015 mewn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn casglu nwyddau i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro, ac wedi anfon eitemau at ffoaduriaid a phobl sydd wedi eu dadleoli ledled Ewrop, a chyn belled â Libanus a Syria.
Yr haf yma, wrth i lywodraethau adael Afghanistan, cydlynodd Pobl i Bobl ymgyrch ar y cyd â ‘Care for Calais,’ i gyflenwi pecynnau hylendid i ffoaduriaid sy'n cyrraedd y DU o Afghanistan. Dosbarthwyd pecynnau hylendid (hanfodion fel sebon, past dannedd, brwsys dannedd, siampŵ, cynhyrchion hylendid merched) i Fanceinion, i'w rhoi i ffoaduriaid o Afghanistan wrth iddynt gyrraedd.
“Mae’r gwaith mae trigolion Gwynedd wedi ei wneud yn codi calon rhywun. Doedd pobl methu a gwneud digon i helpu, ac ar ben cyfrannu’r nwyddau hylendid, mi gasglwyd £3000 trwy gyfrif torfol ar y we, er mwyn parhau â’r gwaith o gefnogi teuluoedd a rhoi mymryn o help iddynt gael eu traed oddi tanynt. Wedi’r cwbl, maen nhw wedi gadael eu cartrefi yn waglaw, wedi gweld erchyllterau a rhai wedi gadael ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd ar ôl.
“Dyna pam bod y croeso sydd wedi ei ddangos i’r ffoaduriaid gan bobl Gwynedd i’w ganmol yn fawr a’i gydnabod yn swyddogol. Fel cyngor, fy ngobaith yw y bydd cefnogaeth i’r cynnig yma sydd gerbron heddiw, ac y gallwn barhau i weithio i ofalu am unigolion sy’n llawer llai ffodus na ni.”
Mae Cyngor Gwynedd wedi eu hymrwymo i groesawu pobl sydd wedi ffoi o’r wlad i ail-leoli yn y sir. Trwy gydweithio â’r Swyddfa Gartref, mae staff yn cydlynu’r gwaith o gefnogi unigolion bregus sydd wedi wynebu argyfwng mawr yn eu bywydau.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter