Chwe mis yn ôl, etholwyd y Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanrug, Beca Brown (yn y llun) i’r Cyngor Sir. Y cwestiwn mawr ydi a fyddai hi’n annog eraill i’r swydd?
Yn ôl y Cynghorydd Beca Brown: “Mi fyddwn i’n bendant yn annog rhywun i sefyll fel ymgeisydd cyngor sir. Y ddelwedd o waith cynghorydd ydi problemau traffig, baw ci, trafferthion parcio, ac wrth gwrs bod elfen o hynny. Efallai nad ydyn nhw’n swnio’n bynciau cynhyrfus, ond mae’r amgylchedd sydd ar ein stepan drws a pha mor iach ac apelgar ydi honno yn dylanwadu ar ein hagwedd tuag at yr amgylchedd ehangach a’n hunan-les fel unigolion ac fel cymuned.
“Ers y cyfnod clo rydan ni wedi troedio’n milltir sgwâr fwy nag erioed o’r blaen, ac mae gweld diddordeb pobol yn yr hyn sydd wrth eu traed yn beth calonogol. Mae’r ffaith mod i’n gallu chwarae rôl i geisio lliniaru neu gynorthwyo pobl i oresgyn trafferthion neu bryderon yn gwneud hi’n joban coblyn o werthfawr.”
I Beca sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i SaySomethinginWelsh ac sy’n fam sengl i ddau, roedd y ffaith ei bod hi’n Gynghorydd Cymuned yn barod yn help garw i’w chyflwyno i rôl cynghorydd sir.
Yn y llun: Y Cynghorydd Beca Brown, sy’n fam i Leusa a Tomi, gyda Nel y milgi, yn troedio llwybrau Llanrug
“Mae gen ti syniad o’r rôl oherwydd dy fod yn rhan o’r Cyngor Cymuned sy’n bwydo mewn i waith y Cyngor Sir. A rŵan bod gen i droed yn y ddau le, mae’r gallu i bontio’r ddau sefydliad a chydweithio ar bethau yn gwneud y gwaith yn llawer rhwyddach.”
Y gyfrinach fwyaf i’r rôl newydd, yn ôl Beca, ydi bod yn drefnus.
“Gan ei bod hi mor rhwydd cael gafael ar bobl rŵan oherwydd technoleg, mae’n rhaid i mi fod yn drefnus. Gall bobl gysylltu efo fi trwy tua 12 o wahanol ffyrdd, rhwng fy nghyfrifon ebyst, Facebook, Twitter, ffonau, ag ati. Ac mi allai fod wrth fy ngwaith, mewn cyfarfod Zoom neu’n danfon un o’r plant i ryw weithgaredd, pan ddaw neges i mi. Felly, mae gen i restrau o bobl sydd wedi cysylltu â mi ac ar ba blatfform, ac yna rhestr weithredu sy’n nodi sut mae ymholiadau yn datblygu. Mae na nifer o bynciau sydd angen ymchwil, adnoddau a chydweithio i’w datrys a dydi hynny ddim yn digwydd dros nos.”
Mae’r gwaith roedd Beca yn ei wneud gyda’r cynllun bwyd FareShare yn Llanrug wedi cynyddu ers ei hethol i’r rôl cynghorydd: “Dwi’n falch o allu cynorthwyo mwy ar fy nghyd-gynghorydd yng Nghwm y glo, Berwyn Parry Jones, wrth gasglu’r bwyd o Fangor a’i ddosbarthu nôl yma yn Llanrug erbyn hyn. Y tristwch yw bod angen i ni gynorthwyo pobl i fwydo eu hunain a’u teuluoedd yn yr oes sydd ohoni. Dwi’n pryderu mai gwaethygu gwnaiff y sefyllfa wrth i ni symud i fisoedd y gaeaf.
“Berwyn yw fy ffrind pennaf un yn y cyngor - mae o wedi bod yn gydymaith ac yn gyfaill gwerthfawr iawn i mi, gan nad ydyn ni’n parhau i gyfarfod wyneb yn wyneb â chynghorwyr eraill a swyddogion. Mae o wastad yno i’m rhoi ar ben ffordd ac yn arweinydd arbennig o ffyddlon wrth i mi ddysgu mwy am y gwaith.”
Y tristwch i Beca yw mai cael ei hethol i’r rôl wnaeth hi, yn dilyn colli’r diweddar gynghorydd Charles Wyn Jones. Dwed Beca ei bod hi’n ei theimlo hi’n fraint cael dilyn yn ôl traed y diweddar gynghorydd a pharhau efo’i waith.
Ers ei hethol, mae Beca yn eistedd ar Bwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd ac mae’n aelod o Bwyllgor Iaith y Cyngor. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y ddau faes, ac mae cynrychioli ward Gymreiciaf Cymru yn bendant yn ei rhoi mewn safle gwerthfawr.
Yn yr wythnosau nesaf, mae Beca yn awyddus i drefnu sesiwn gyda thîm o wirfoddolwyr i gasglu sbwriel yn y pentref ac mae ganddi gynlluniau ar y gweill i drafod gydag ieuenctid yr ardal, sut gallan nhw ei chynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o’r effaith mae baw ci yn ei gael ar eu hamgylchedd nhw wrth chwarae ac hamddena.
“Mae pŵer pobl ifanc yn gryf, felly dwi’n awyddus i’w hannog i baratoi clipiau fideos byr i rannu eu teimladau. Mae’r broblem o faw ci yn gorwedd yn llwyr gyda pherchnogion anghyfrifol. Yn ffodus i ni, nifer fechan o bobl sy’n ymddwyn fel hyn, ond mae gennym ni gyd ein rhan i chwarae wrth gadw’r pentref a’r amgylchedd yn lân ac yn iach.”
Ac i’r Cynghorydd Sir sy’n cerdded ei Ward ddwywaith y dydd gyda Nel, ei gast milgi, mae hi’n falch iawn o oedi i sgwrsio neu glywed gan etholwyr ei hardal.
Os oes diddordeb gennych chi sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru Gwynedd, cynhelir sesiwn anffurfiol dros Zoom nos Fawrth 12 o Hydref am 6 o’r gloch i drigolion Dwyfor Meirionnydd. Rhaid cofrestru o flaen llaw https://www.dwyformeirionnydd.cymru/dos_amdani_take_a_stand Bu digwyddiad llwydiannus tebyg i drigolion Arfon yn ddiweddar. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter