Mae Cynghorydd o Wynedd sydd wedi blino disgwyl i’r Llywodraeth lenwi’r bwlch yn ei gymuned gyda gwasanaeth bws, wedi penderfynu cerdded taith 30 milltir y llwybr bws, union flwyddyn ers i’r daith fysiau olaf ddod i ben.
Ar yr 11 o Chwefror 2023, daeth y daith fws, T19, sy’n teithio o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno i ben. Mae’n gadael cymunedau yng Ngwynedd a Chonwy heb wasanaeth bws sy’n angenrheidiol i nifer allu cyrraedd yr ysgol a’r colegau, eu lleoliadau gwaith, i gasglu bwyd ac i gyrraedd apwyntiadau ysbyty.
“Dwi’n ofnadwy o flin am y sefyllfa,” meddai’r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn, sy’n cynrychioli trigolion Ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.
“Mae’r Llywodraeth Lafur a Thrafnidiaeth Cymru wedi gadael fy nghymuned i heb ddarpariaeth hanfodol. Fyddai’r math yma o sefyllfa ddim yn digwydd mewn trefi mawrion a dinasoedd yng Nghymru. Felly pam bod ardaloedd gwledig yn cael eu colbio unwaith eto?”
Diddymwyd y gwasanaeth flwyddyn yn ôl oherwydd nad oedd yn ariannol hyfyw i’r cwmni bysiau preifat oedd yn rhedeg y gwasanaeth. Dadl y Llywodraeth yw bod gwasanaeth trenau yn rhedeg ar hyd yr un llwybr.
“Dydi’r gwasanaeth trên ddim yn rhedeg yn ddigon aml ac mae problemau cyson gyda’r lein oherwydd effeithiau’r tywydd. All pobl leol ddim cyrraedd eu hapwyntiadau yn Ysbyty Llandudno, er enghraifft, oherwydd y problemau yma. All disgyblion ddim cyrraedd yr ysgol, heb orfod codi yn blygeiniol o fore a disgwyl y tu allan i adeilad yr ysgol i’r drysau agor. Dyw’r sefyllfa ddim yn dderbyniol o gwbl.”
Bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cerdded y 30 milltir o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno ar fore Sul, 11 o Chwefror, gydag etholwyr, cyfeillion a chyd-gynghorwyr yn ymuno ag ef ar rannau o’r daith. Y bwriad yw nodi blwyddyn gron ers diddymu’r gwasanaeth gan adael pobl leol yn amddifad o drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ymuno ag ef ar rannau o’r daith yn sir Conwy, bydd ei gyd-gynghorwyr Plaid Cymru, Liz Roberts sy’n cynrychioli trigolion Dolwyddelan a Betws y Coed; a Chynghorwyr Sir dros Lanrwst, Nia Clwyd Owen ac Aaron Wynne. Roedd y gwasanaeth bws T19 yn teithio drwy Ddolwyddelan a Llanrwst cyn cyrraedd pen ei daith yng Nghyffordd Llandudno.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Clwyd Owen: “Dwi’n croesawu ymgyrch Elfed ac yn llwyr gefnogi ei ymdrechion. Mae colli gwasanaeth y T19 yn ergyd drom i ddefnyddwyr Dyffryn Conwy hefyd. Roedd nifer o'm trigolion yn dibynnu ar y gwasanaeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau sylfaenol megis apwyntiadau iechyd, bancio, ymweld â’r llyfrgell, siopa yn ogystal â chyflogaeth ac addysg.
“Dydi’r trenau ddim yn rhedeg yn ddigon cyson, ac mae’r gwasanaeth yn annibynadwy oherwydd y llifogydd a thywydd garw.
“Fel Elfed, dwi’n erfyn ar y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth a Thrafnidiaeth Cymru i symud ar hyn a gweithredu. Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar ein trigolion, ac mae cost defnyddio trenau yn llawer uwch na’r gwasanaeth bysiau.”
Mae’r Cynghorwyr wedi cysylltu â’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters ac wedi codi’r mater ar lawr y Senedd, nôl yng ngwanwyn 2023, diolch i Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionnydd. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nhafarn y Queens yn Blaenau Ffestiniog naw mis yn ôl ac roedd ymateb yr 50 o drigolion a fynychodd yn chwyrn.
Yn ôl y Cyngh. Elfed Wyn ap Elwyn: “Er anfon gohebiaeth yn holi am ddiweddariadau ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf, mae Lee Waters wedi bod yn araf iawn yn ymateb i’m cais am wybodaeth frys am y sefyllfa ddiweddaraf. Nid yw llythyr a dderbyniwyd dros y dyddiau diwethaf yn mynd i'r afael â'r broblem a’r pryderon am lwybr y T19 o’r Blaenau i Landudno.
“Fy ngobaith, trwy gerdded y 30 milltir yn ystod dydd Sul, 11 o Chwefror, yw atgoffa’r Llywodraeth a’r gwleidyddion yng Nghaerdydd ein bod ni’n parhau i frwydro dros drigolion lleol yn yr ardal wledig hon.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter