Wyneb newydd yn Gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd
Etholwyd gwraig ifanc o Ben Llŷn yn Gadeirydd newydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn ddiweddar.
Siân Hughes, 35 oed, cynrychiolydd ardal Morfa Nefyn ac Edern yn Llŷn etholwyd i rôl Cadeirydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru mewn cyfarfod diweddar. Fe’i hetholwyd yn unfrydol yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Selwyn Griffiths, Ward Gorllewin Porthmadog i roi’r gorau i’r swydd am resymau personol.
Mae’r Nyrs Ysgol yn ardal Dwyfor yn Gynghorydd Gwynedd dros drigolion Morfa Nefyn ac Edern ers dwy flynedd a hanner. Siân Hughes etholwyd i gynrychioli’r ardal yn dilyn ymadawiad Liz Saville Roberts fel cynghorydd yr ardal wrth iddi ymgymryd â’r gwaith o fod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwfyor Meirionnydd yn San Steffan.
Yn ôl Siân, sydd wedi ei geni a’i magu ym Morfa Nefyn: “Mae hon yn fraint fawr i mi fel cynghorydd lled newydd, a dwi’n ddiolchgar iawn i’r grŵp, nid yn unig am eu cefnogaeth, ond am eu croeso cynnes. Mae ymdeimlad braf yn nhîm Plaid Cymru Gwynedd, a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio â’r cynghorwyr, yr arweinydd, yr Aelodau Cynulliad a’r Aelodau Seneddol ledled Gwynedd.”
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Cynghorydd Selwyn Griffiths am ei waith diflino i ni fel grŵp dros y misoedd diwethaf. Mae ei brofiad a’i anogaeth wedi bod yn ddi-fai, a bydd yn parhau yn ein mysg fel cynrychiolydd cryf yng ngorllewin Porthmadog.
“Braf yw croesawu’r Cynghorydd Siân Hughes fel Cadeirydd newydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd. Wyneb eithaf newydd, ond un sy’n hen ennill ei phlwyf o fewn y sir. Mae’n wraig adnabyddus yn Llŷn ac mae’n braf gallu dwyn ar ei phrofiad o weithio o fewn y gwasanaeth iechyd, o fod yn rhan weithgar o’i chymuned wledig yn Llŷn ac adeiladu ar ei gwaith i’r Blaid yn yr ardal. Edrychwn ymlaen fel tîm at gydweithio â Sian dros y misoedd nesaf.”
Mae Siân Hughes yn byw ym mhentref Morfa Nefyn, yn briod a chanddi bedwar o blant.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter