Heddiw, croesawodd Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Annwen Hughes y newyddion bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi awdurdodi i orchmynion prynu gorfodol gael eu gwneud mewn perthynas â ffordd osgoi A496 Llanbedr yn Ardudwy.
“Yn lleol, dwi’n ymwybodol bod trafodaethau wedi cychwyn ar gyfer gwella ffyrdd yn yr ardal yma nôl ym 1953. Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth wella seilwaith ffyrdd Ardudwy.
Yn ôl y Cynghorydd sy'n cynrychioli trigolion Llanbedr: “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd mewn traffig twristiaeth, cerbydau nwyddau trwm yn ogystal â thraffig lleol yn golygu bod pobl yn brwydro i symud yn yr ardal ar hyd ffordd droellog gul, gyda phont gerrig rhestredig ym mhentref Llanbedr, sy’n achosi tagfeydd o bob math.
“Ym mrig y tymor gwyliau, gall Llanbedr weld cynnydd enfawr o gerbydau yn teithio yn yr ardal, wedi eu cloi yn eu hunfan yng nghanol y pentref.
“Ynghyd â ffordd osgoi newydd a gwelliannau i fynediad y ffordd i Faes Awyr Llanbedr, bydd rhoi’r awdurdod heddiw gan aelodau’r cabinet yn cael effaith gadarnhaol ar ein bywydau o ddydd i ddydd yma’n lleol. Bydd hefyd yn sicrhau bod traffig yn Llanbedr, Llanfair, Dyffryn Ardudwy, Bermo a Harlech yn symud yn fwy rhydd wrth i bobl deithio i’r ardaloedd hynny.
“Bydd gwella’r seilwaith ffyrdd diolch i arian Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Gwynedd, yn cael effaith gadarnhaol ar ein heconomi leol, ar fusnesau lleol ac ar fywydau dyddiol pobl leol.
“Mae gennym ffordd hir o’n blaenau, ond mae heddiw yn garreg filltir bwysig i’r prosiect hwn a’r ardal hon.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter