Casglu gwastraff Gwynedd yn gwella

Mae un cynghorydd lleol yn awyddus i gael gwell darlun am atebion i broblemau casglu sbwriel yng Ngwynedd ar ran ei drigolion.

Manteisiodd Cynghorydd Llanwnda, Huw Rowlands ar y cyfle i ofyn i'r cyngor llawn sut y bydd trawsnewid y casgliad gwastraff yn effeithio ar y trigolion sy'n byw yn ei ward.

“Mae rhai achosion wedi bod yn ddiweddar lle mae problemau wedi codi yn fy ward, gyda biniau ac ailgylchu heb eu casglu a thrigolion yn cael eu gadael wedyn heb ddim syniad pryd gaiff y sbwriel ei hel. Dwi’n awyddus i ni weithio gyda’n gilydd yn lleol, ar lefel sirol ac ar lefel genedlaethol i weld gwelliannau’n cael eu gwneud i’r broses gyfan.

“Dwi’n falch bod y Cynghorydd Dafydd Meurig sy’n arwain ar y mater hwn yng Ngwynedd wedi egluro bod pryderon wedi eu codi mewn ardaloedd eraill yn Arfon hefyd lle mae casgliadau biniau wedi eu amharu oherwydd salwch staff. Mawr hyderaf bod newidiadau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd i drawsnewid y casgliadau gwastraff yng Ngwynedd, gan weithio gyda staff, goruchwylwyr a’r undebau llafur. Edrychwn ymlaen at weld y newidiadau hyn yn dod yn fwy effeithlon ar garreg ein drws.”

Mewn ymateb i’r cwestiwn, dywedodd adran amgylchedd Cyngor Gwynedd fod lefelau uchel o salwch a threfniadau hanesyddol yn golygu nad oedd y gwasanaeth yn gallu uchafu oriau gwaith cynhyrchiol yn y gorffennol. Darparwyd adnoddau ychwanegol i geisio goresgyn problemau a arweiniodd at wariant sylweddol: Gwynedd wariodd fwyaf namyn un, yn genedlaethol, yn 2021 a 2022 ar wastraff o gartrefi.

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig: “I fynd i’r afael â’r trafferthion yn Arfon, rydym wedi ail-werthuso ac ail-ddylunio’r gwasanaeth gan osod gweithdrefnau newydd yn eu lle. Gan weithio gyda’n tîm o staff, mae’n ymddangos bod y trefniadau newydd sydd ar waith yn sefydlu’n dda, a dylai trigolion ddechrau gweld gwelliannau yn eu casgliadau yn fuan.

“Fel gyda phob proses newydd, byddem yn annog trigolion i fod yn amyneddgar wrth i’r cyfnod ymsefydlu fynd rhagddo,” eglura’r Cynghorydd Meurig.

Dylai gwaith i wella cyfathrebu trwy gyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd a chynghorwyr sir lleol hefyd gynorthwyo os bydd problemau achlysurol yn codi a’r criwiau’n methu casglu ar y diwrnod arferol. Y cyngor yw i adael casgliadau allan a gwneir pob ymdrech i drefnu casgliad ar gyfer y diwrnod canlynol.

“Ar ran pawb sy’n ymwneud â’r broses, hoffwn ymddiheuro’n bersonol i drigolion sydd wedi eu heffeithio yn ddiweddar, a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.

“Mae dwy swydd wedi’u hysbysebu’n ddiweddar a ddylai gefnogi strwythur staffio’r casglwyr biniau gwastraff. Hoffem hefyd atgoffa ein trigolion i barhau â’u hymdrechion selog i ailgylchu gwastraff, er mwyn lleihau unrhyw risgiau y gallai’r cyngor a threthdalwyr eu hwynebu pe bai cosbau ariannol yn cael eu cyflwyno pe na baem yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff tirlenwi.

“Rydym yn hyderus y byddwn yn gweld gwasanaeth yng Ngwynedd, y gall ein staff a’n trigolion, fod yn falch ohono eto,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Joshua Roberts
    published this page in Newyddion 2023-07-11 09:02:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns