Mynychodd dros 200 o bobl gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, Ganllwyd, Meirionnydd, i ddangos eu cefnogaeth i ganolfan beicio mynydd pwrpasol cyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn y Ganllwyd ger Dolgellau yn 1996 ond fe godwyd pryderon bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu dyfodol y safle ynghyd â dwy ganolfan ymwelwyr arall yn y gogledd a’r canolbarth.
Yn y cyfarfod a drefnwyd gan Gyngor Cymuned y Ganllwyd a Chynghorydd Sir lleol yr ardal, Delyth Lloyd Griffiths, dywedodd llefarydd CNC, Elsie Grace, y bydd angen dod o hyd i ffordd newydd o weithio er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y ganolfan ei hun, gan fod cyllidebau pob corff cyhoeddus yn cael ei wasgu.
Fodd bynnag, dywedodd y Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC, nad oedd unrhyw gynlluniau i gau canolfan ymwelwyr Coed y Brenin. Mae’n debyg mai chwilio am ddiddordeb gan gwmnïau preifat neu sefydliadau wedi eu harwain gan y gymuned fyddai’r dasg i’r dyfodol er mwyn rheoli’r caffi a’r adeilad maes o law.
Mae Coed y Brenin wedi hen sefydlu ei hun fel canolfan ragorol, gan ddarparu gwasanaethau i helpu pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau amser hamdden a’r rhwydwaith enfawr o lwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang sydd wedi eu lleoli yn y goedwig.
Dywedodd Delyth Lloyd Griffiths, Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros yr ardal: “Rydyn ni’n gwybod bod 100,000 o ymwelwyr yn dod i Goed y Brenin bob blwyddyn sy’n cael effaith gadarnhaol ar ardal wledig, wasgarog ei phoblogaeth, fel Meirionnydd.
“Mae’r ganolfan yn cyflogi 20 o bobl sy’n gwneud Coed y Brenin yn gyflogwr pwysig i Wynedd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bobl leol, y gymuned feicio, partneriaid a chefnogwyr am ddod i’r cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol gyda phobl yn cael y cyfle i rannu eu barn a'u pryderon.
“Roedd y Cyngor Cymuned wedi bod yn hynod o brysur yn trefnu’r digwyddiad, a chafodd y llefarwyr a wahoddwyd i rannu eu barn dderbyniad da. Diolch i bawb a gymrodd ran.
“Nawr mae'r gwaith caled yn dechrau. Rydym yn disgwyl canfyddiadau adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn hollbwysig, y manylion ariannol, dros y misoedd nesaf. Byddwn wedyn yn gallu parhau â’r drafodaeth a gweld sut mae CNC yn datblygu a diogelu’r safle ar gyfer y gymuned leol, economi Gwynedd, y gymuned feicio a’r genhedlaeth nesaf.
Yn y cyfarfod, roedd yn amlwg bod cefnogaeth aruthrol hefyd i CNC fuddsoddi yn y traciau beiciau. Lleiswyd cwynion nad oedd unrhyw waith cynnal a chadw cyffredinol na diogelu’r traciau wedi digwydd ar y safle dros nifer o flynyddoedd.
“Sut allwn ni gyflawni’r cyfan a drafodwyd yn y cyfarfod sy’n bwysig i bawb sy’n gysylltiedig â Choed y Brenin. Rydym yn awyddus i barhau â’r drafodaeth a arweiniwyd gan CNC a chydweithio i’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths.
Ymhlith y siaradwyr yn y cyfarfod roedd y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths, Aelod Senedd Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor; Dafydd Caradog Davies MBE, sylfaenydd traciau beic Coed y Brenin; beiciwr lleol, Rhys Llywelyn a Phennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, Elsie Grace.
Diwedd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter