Bydd dros 800 o blant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan gyngor a arweinir gan Blaid Cymru i gynorthwyo rhieni sy'n cael trafferth cwrdd â gofynion ariannol gwisgoedd ysgol. Daw hyn er gwaethaf cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r grant.
Dosbarthwyd £105 o grant gwisg ysgol y plentyn i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi dros y blynyddoedd diwethaf a diolch i bolisi Plaid Cymru, bydd y teuluoedd hyn yn parhau i dderbyn cefnogaeth er gwaetha’r ffaith y bydd y grant Llywodraeth Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf.
Yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yr wythnos ddiwethaf (3 Mai), mynegodd y Cynghorydd Edgar Owen, Waunfawr ei bryderon bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi’n ddiweddar bod bwriad torri grant gwisg ysgol yn genedlaethol.
“Mae’r arian yn ddiogel ar gyfer eleni. Ond mae'n achos pryder i mi ein bod ni'n wynebu mwy o doriadau ariannol o Gaerdydd i grantiau ysgol eto’r flwyddyn nesaf.
“Dwi’n credu'n gryf fod y grant gwisg ysgol, grant y mae Gwynedd wedi ychwanegu ato, i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig wrth ddechrau addysg yn ystod eu blynyddoedd uwchradd yn hollbwysig.
“Mae rhai teuluoedd yng Ngwynedd yn cael trafferthion ymdopi’n barod – mae’r galw ar y banciau bwyd yn cynyddu, mae Credydau Cynhwysol yn achosi straen ariannol ar deuluoedd, ac mae costau byw cyffredinol yn cynyddu. Mae’r math yma o gymorth sy’n arbenigo ar un elfen o gefnogaeth i fywyd teuluol i’w groesawu.”
Cafodd cyfanswm o 842 o bobl ifanc gefnogaeth gan Wynedd a Llywodraeth Cymru yn ystod 2016 i 2017. Gyda thros deg wythnos yn dal i fynd yn y flwyddyn ysgol gyfredol, mae 810 o ddisgyblion eisoes wedi derbyn y gefnogaeth sylfaenol hon.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn toriadau’r Blaid Lafur yn y maes yma’n genedlaethol. Yn ôl Llŷr Gruffydd, AC Gogledd Cymru, a ysgrifennydd cabinet cysgodol ar gyfer addysg a dysgu gydol oes:
“Dwi’n synnu bod y Llywodraeth Lafur wedi torri grant gwisg ysgol - mae'n cynnig cefnogaeth hanfodol i lawer o deuluoedd tlotaf Cymru a’r llynedd, roedd o fudd i 5,500 o deuluoedd. Caiff ei werthfawrogi gan yr awdurdodau lleol, ysgolion, athrawon ac undebau athrawon, rhieni a phlant. Mae cwestiynu’r angen amdano yn ddwl.
Mae'n fy nhristhau bod Llywodraeth sy'n cael ei arwain gan Lafur yn torri cefnogaeth i'r rhai tlotaf o fewn ein cymdeithas, a hynny pan fo’r angen am gefnogaeth yn fwy nag erioed. Gyda Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Gyfunol yn torri ar y wladwriaeth les a chostau byw ar gynnydd, dyma'r peth olaf y byddwn yn ei ddisgwyl gan Lafur. Bydd Plaid Cymru yn parhau yn ei ymgyrch i sicrhau bod cefnogaeth i'r teuluoedd tlotaf gyda chost gwisg ysgol yn cael ei gynnal.”
Yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy'n arwain ar addysg yng Ngwynedd: "Yn dilyn y newyddion bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi penderfynu torri'r grant, dwi’n falch bod Cabinet Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi cytuno i gefnogi’r grant ar gyfer 2018-2019 o fewn cyllideb y Cyngor.”
Yn ôl Dyfrig Siencyn, Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd: “Un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru Gwynedd yw cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig. Mae rhai teuluoedd yn cael trafferthion oherwydd rhaglen llymder didrugaredd y Llywodraeth Lafur. Mae'n ddiffyg sylfaenol cosbi aelodau difreintiedig o'n cymdeithas yma yng Ngwynedd. Mae Plaid Cymru’n sefyll yn gadarn gan droi pob carreg i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cefnogaeth o fewn y byd addysg yn ein hysgolion a'n colegau.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter