Mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu yn galw ar bobl leol ardal Meirionnydd a thu hwnt i ddangos eu cefnogaeth i’r ganolfan beicio mynydd cyntaf i’w hagor yn y Deyrnas Gyfunol.
Agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn y Ganllwyd ger Dolgellau yn 1996 ac ers hynny mae wedi hen sefydlu ei hun fel canolfan ragorol.
Mae’n cynnig gwasanaethau i bobl leol ac ymwelwyr i gefnogi’r profiad o fwynhau rhwydwaith enfawr o lwybrau beicio mynydd o'r radd flaenaf sydd wedi eu lleoli yn goedwig.
“Mae clywed y newyddion bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu dyfodol tair o’i chanolfannau ymwelwyr yn y gogledd a chanolbarth Cymru wedi ysgwyd y gymuned hon,” eglura Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Ganllwyd a’r cyffiniau, Delyth Lloyd Griffiths.
“Rydyn ni’n gwybod bod 100,000 o ymwelwyr yn dod i Goed y Brenin bob blwyddyn – yn economaidd, sut ar y ddaear all ardal â phoblogaeth wledig fel Meirionnydd freuddwydio am groesawu’r nifer yna o ymwelwyr i’r ardal, mewn unrhyw ffordd arall?
“Mae’r ganolfan yn cyflogi 20 o bobl sy’n gwneud Coed y Brenin yn gyflogwr hanfodol bwysig i Wynedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod canolfannau ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian, Ponterwyd ger Aberystwyth ac Ynyslas yn Borth, Ceredigion yn cael eu hadolygu gan Fwrdd CNC, a disgwylir cyhoeddiad ddiwedd mis Mawrth.
Yn ôl y Cyng Delyth Griffiths; “Mae angen i bobl ddeall mai ychydig iawn o gyfleoedd cyflogaeth sydd gan ardal wledig, gyda’r rhan fwyaf o’n trigolion yn hunangyflogedig ac yn gweithio’n galed mewn busnesau bach iawn.
“Mae cael adnodd, fel Coed y Brenin, ar agor gydol y flwyddyn, yn cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol gyda llwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg yn hollbwysig i’r ardal hon.”
“Rydym yn annog pobl leol i fynychu’r cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, Ganllwyd nos Iau 1 Chwefror am 6:30pm er mwyn lleisio’u barn,” meddai’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths.
Eisoes, mae cefnogaeth wedi bod yn cynyddu ar-lein wrth i’r gymuned feicio ymhell ac agos ddod i glywed am adolygiad CNC ar ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed-y-Brenin. Mae busnesau lleol yn Nolgellau hefyd yn pryderu’n fawr am y drafodaeth am y safle.
Bydd siaradwyr yn ymuno â’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn y cyfarfod cyhoeddus sef Aelod Senedd dros ardal Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor; Dafydd Caradog Davies MBE, sylfaenydd traciau beic Coed y Brenin; beiciwr lleol, Rhys Llywelyn a Phennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, Elsie Grace.
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu [email protected] neu trwy alw Delyth Lloyd Griffiths ar 07496 019629
Diwedd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter