Mae Plaid Cymru Gwynedd yn cyflwyno tîm cryf o 51 ymgeisydd i sefyll yn Etholiad Cyngor Gwynedd ar y 5 o Fai. Mae bron i hanner (22) yn ferched. Yn dilyn newidiadau gan y Comisiwn Ffiniau i newid ffiniau’r wardiau, mae 69 o seddi i’w llenwi yng Ngwynedd yn yr etholiad hwn – i lawr o’r cyfanswm 75 sedd wreiddiol.
Mae 19 ymgeisydd*, sydd eisoes wedi dangos eu hymroddiad i gymunedau Gwynedd, wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad ac felly ni fydd etholiad yn y wardiau hynny.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn: “Mae’n dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd, eu gwaith caled a’r gefnogaeth gref y maen nhw’n ei rhoi i’w cymunedau bod y gwrthbleidiau wedi penderfynu peidio â chyflwyno ymgeiswyr yn eu herbyn.”
Ymgeiswyr newydd
“Mae gennym fwy o bobl ifanc yn sefyll dros Blaid Cymru yn yr etholiad hwn nag erioed o’r blaen,” ychwanegodd Dyfrig Siencyn.
“I mi, dyma’r newyddion gorau posib. Mae pobl ifanc, brwdfrydig yn dod â syniadau newydd a bwrlwm i’r tîm. Gyda’r ymgeiswyr profiadol sydd gennym hefyd yn ceisio eu hail-ethol, maen nhw’n ffurfio tîm gwych.
“Mae ’na ymdeimlad cadarnhaol yn ein plith, ar ôl dyddiau llwm a hir Covid-19. Ac mae llawer o’n cynghorwyr profiadol yn awyddus i rannu eu gwybodaeth, cynnig arweiniad a chydweithio’n gadarnhaol gyda’r wynebau newydd i arwain ein cymunedau yng Ngwynedd ar ôl y 5 o Fai.”
Yn Bontnewydd mae’r ymgeisydd ifanc Menna Jones yn cerdded strydoedd y pentref yn llawn brwdfrydedd gyda choets a phlentyn bychan wrth ei thraed. Mae Sasha Williams, aelod o Gyngor Cymuned Llanddeiniolen a Chadeirydd Cylch Meithrin ac Arweinydd Cylch Ti a Fi Bethel, yn sefyll gydag Iwan Huws yn y ward dau aelod newydd Bethel a’r Felinheli, dros Blaid Cymru.
Draw yn Llanberis, bydd holl sgiliau Kim Jones, gan gynnwys ei phrofiad fel ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Llanberis yn fanteisiol iawn os caiff ei hethol yn gynghorydd dros y ward. Mae Beca Roberts – ein hymgeisydd ifanc, dawnus ar gyfer Tregarth a Mynydd Llandygái – yn gobeithio ymuno â thim cryf Plaid Cymru Dyffryn Ogwen ar y cyngor ar gyfer ei thymor cyntaf.
Mae Shannon Orritt yng Nghricieth, Llio Elenid Owen yn Groeslon ac Elin Hywel dros Ogledd Pwllheli ymhlith ein hymgeiswyr benywaidd cadarn. Mae Shannon a Llio yn sefyll am y tro cyntaf. Mae gan Shannon doreth o brofiad o faes gwleidyddiaeth a heriau cymunedol yn ei swydd fel gweithiwr achos i Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd, ac mae gan Llio brofiad o helpu prosiectau cymunedol fel gwirfoddolwraig yng Nghanolfan yr Orsaf, Penygroes. Mae Elin hefyd yn gyfarwydd iawn â gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol fel aelod o dîm Liz Saville Roberts AS.
Mae tîm gwych o ymgeiswyr yn sefyll yng Nghaernarfon, un o gadarnleoedd y Blaid, gyda Dewi Jones, sy’n athro, yn sefyll am y tro cyntaf yn Ward Peblig. Anna Jane, sy’n weinidog lleol ac wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r gymuned yn ystod argyfwng Covid-19 gyda phecynnau bwyd a dosbarthu meddyginaethau, yw ein hymgeisydd yn Ward Hendre.
Ward anferth
Draw ym Mangor, yn ward Canol Bangor, sydd â phoblogaeth o hyd at 8000 yn ystod tymor y Brifysgol, mae Medwyn Hughes, fu gynt yn aelod annibynnol, bellach wedi ymuno â Phlaid Cymru. Bydd yn sefyll gyda Huw Wyn Jones, Cynghorydd dros hen Ward y Garth, a byddant yn ffurfio tîm Plaid Cymru cryf er mwyn wynebu heriau’r ward anferth hon. Mae Elin Walker Jones, Seicolegydd Clinigol a Chadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, yn sefyll eto yn Ward Glyder.
Mewn ardaloedd eraill yn Arfon, mae Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd profiadol Cyngor Gwynedd, yn sefyll i’w ail-ethol fel aelod Arllechwedd ac mae’r cynghorydd poblogaidd, Menna Baines, hefyd yn gobeithio ei hail-ethol i’r ward sydd wedi ei ail-enwi yn Ward y Faenol.
Tri unigolyn arall sydd â llawer o brofiad ac sy’n adnabod eu hardaloedd lleol fel cefn eu llaw yw Huw Rowlands, sy’n ymgiprys am Llanwnda; Arwyn ‘Herald’ Roberts, y ffotograffydd adnabyddus sy’n sefyll yn Ward newydd Tryfan a Dafydd Thomas, sydd â bob bwriad i gadw Llanllyfni yn nwylo Plaid Cymru.
Mae gennym dri ‘wyneb’ cyfarwydd cenedlaethol yn sefyll yn Nwyfor Meirionnydd. Mae’r actor a’r cyflwynydd Mici Plwm yn sefyll yn Abererch; mae’r cyn Ddirprwy Gomisiynnydd Heddlu a Throsedd, Ann Griffith, sydd wedi’i geni a’i magu yn y Bermo, yn sefyll yn ei thref enedigol ac mae’r cyflwynydd a’r digrifwr Dilwyn Morgan yn wynebu etholiad yn y Bala. Trwy ddylanwad Dilwyn, llwyddwyd i sicrhau £20,000 i sefydlu llwybr diogel i blant gerdded i’r ysgol yn y dref. Dyma un o blith llawer o fentrau cymunedol sy’n ei wneud yn deilwng iawn o gael ei ail-ethol.
Wynebau newydd
Tri wyneb newydd arall sy’n gobeithio cael eu hethol mewn rhannau eraill o Ddwyfor Meirionnydd ar y 5 o Fai yw Elfed Wyn ap Elfed ym Mowydd a Rhiw; Llywelyn Rhys yng Ngorllewin Porthmadog a Rhys Tudur yn Llanystumdwy. Gweithiwr cymunedol a ffermwr yw Elfed, sy’n ymgyrchu yn ddiflino dros dai i bobl leol, ynghyd â Rhys Tudur, sy’n gyfreithiwr ac un o’r criw sefydlodd y mudiad, Hawl i Fyw Adra. Mae gan Llywelyn Rhys, sydd wedi’i eni a’i fagu ym Mhorthmadog brofiad helaeth am gyfrifoldebau cynghorau lleol, gan mai ef yw Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog a chynrychiolydd Gorllewin Porthmadog ar y cyngor hwnnw.
Mae tref farchnad Dolgellau ym Meirionnydd yn ffodus gan fod y ddau gynghorydd profiadol a dawnus, Dyfrig Siencyn a Linda Morgan, yn awyddus i’w hail-ethol i barhau â’i gwaith caboledig yn lleol. Mae ymgeisydd newydd llawn profiad mewn llywodraeth leol yn y maes amddiffyn plant, Delyth Lloyd Griffiths, yn anelu at ennill y ward wledig fawr sy’n amgylchynu’r dref, ward Brithdir, Llanfachreth, Ganllwyd a Llanelltyd.
Mae pum ymgeisydd da arall yn wynebu etholiadau yn Nwyfor, gyda’r cynghorwyr presennol Gareth Tudor Jones a Dewi Roberts yn gweithio i gadw eu wardiau sydd wedi eu ehangu sef Morfa Nefyn a Thudweiliog ac Abersoch a Llanengan. Dafydd Davies sy’n sefyll i’r Blaid yng Nghlynnog a bydd ymgeisydd newydd arall, Jina Gwyrfai, yn gweithio i gynrychioli trigolion yr Eifl. Mae gan y ddau wreiddiau dwfn yn eu cymunedau a gweledigaeth glir ar gyfer eu hardaloedd. Byddai pobl yn ward newydd Glaslyn yn ffodus iawn i gael June Jones fel eu cynghorydd profiadol newydd ar ôl 5 Mai.
Yn ôl Elin Walker Jones, Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd: “Ni allwn gymryd dim yn ganiataol yn ystod y broses ddemocrataidd hon; rydym ni i gyd yn nwylo ein pobl. Dwi’n annog cefnogwyr Plaid Cymru i fynd allan i bleidleisio a gweithio gyda’u hymgeiswyr yn lleol i sicrhau y bydd Gwynedd yn parhau i fod yn sir lle mae’r gymuned, pobl leol, cyfiawnder cymdeithasol, busnesau lleol, diwylliant, iaith a threftadaeth yn parhau yn gonglfaen i bopeth a gyflawnwn. Ymlaen!”
Ychwanegodd Dyfrig Siencyn: “Wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol, hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i’n cynghorwyr diwyd, sy’n sefyll i lawr o’r llwyfan gwleidyddol.
“Mae rhai wedi gwasanaethu am dymor o bum mlynedd, eraill am gyfnodau llawer, llawer mwy. Rydym yn ddiolchgar i chi am eich gwaith ar ran pobl Gwynedd. Diolch i chi am eich cefnogaeth a’ch ymroddiad a gobeithio y byddwch yn parhau, fel cyfeillion a chyn gydweithwyr, i gadw’n ffyddlon i bopeth sy’n annwyl i ni o fewn tîm Plaid Cymru a’n cymunedau.”
Diwedd
* Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd sydd wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad:
- Gwynfor Owen (Harlech a Llanbedr)
- Annwen Hughes (Harlech a Llanbedr)
- Elwyn Edwards (Llandderfel)
- Alan Jones Evans (Llanuwchllyn)
- Meryl Roberts (Penrhyndeudraeth)
- Nia Jeffreys (Dwyrain Porthmadog)
- Linda Ann Jones (Teigl)
- Dawn Lynne Jones (Cadnant)
- Rheinallt Puw (Canol Bethesda)
- Olaf Cai Larsen (Canol Caernarfon)
- Berwyn Parry Jones (Cwm-y-glo)
- Beca Brown (Llanrug)
- Elfed Williams (Deiniolen)
- Gareth Roberts (Dewi, Bangor)
- Einir Wyn Williams (Gerlan)
- Ioan Thomas (Menai)
- Craig ab Iago (Penygroes)
- Paul Rowlinson (Rachub)
- Edgar Wyn Owen (Waunfawr)
Ymgeiswyr Plaid Cymru Gwynedd sy’n wynebu etholiad:
- Mici Plwm (Abererch)
- Dewi Wyn Roberts (Abersoch a Llanengan)
- Dilwyn Morgan (Y Bala)
- Ann Griffith (Abermaw)
- Delyth Lloyd Griffiths (Brithdir, Llanfachreth, Ganllwyd a Llanelltyd)
- Elfed Wyn ap Elwyn (Bowydd a Rhiw)
- Dafydd Davies (Clynnog)
- Shannon Orritt (Cricieth)
- Linda Morgan (De Dolgellau)
- Dyfrig Siencyn (Gogledd Dolgellau)
- June Jones (Glaslyn)
- Rhys Tudur (Llanystumdwy)
- Gareth Tudor Jones (Morfa Nefyn a Thudweiliog)
- Llywelyn Rhys (Gorllewin Porthmadog)
- Elin Hywel (Gogledd Pwllheli)
- Jina Gwyrfai (Yr Eifl)
- Dafydd Meurig (Arllechwedd)
- Iwan Huws (Bethel a’r Felinheli)
- Sasha Williams (Bethel a’r Felinheli)
- Menna Jones (Bontewydd)
- Huw Wyn Jones (Canol Bangor)
- Medwyn Hughes (Canol Bangor)
- Menna Baines (Y Faenol)
- Elin Walker Jones (Glyder, Bangor)
- Llio Elenid Owen (Groeslon)
- Anna Jane Evans (Hendre, Caernarfon)
- Kim Jones (Llanberis)
- Dafydd Thomas (Llanllyfni)
- Huw Rowlands (Llanwnda)
- Dewi Jones (Peblig, Caernarfon)
- Beca Roberts (Tregarth a Mynydd Llandygái)
- Arwyn Roberts (Tryfan)
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter