Mae gwasanaethu'r gymuned yn draddodiad teuluol i Gareth Roberts, Cynghorydd ardal Dewi ym Mangor. Roedd cenedlaethau o deulu ei dad yn ofalwyr Eglwys St James ym Mangor felly roedd hyfforddi i ddod yn swyddog ambiwlans, ac yna dod yn Gynghorydd Dinas a Chynghorydd Sir yn ddilyniant naturiol i'r gŵr o Fangor.
“Dwi’n parhau i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r eglwys, ac yn mynychu’n weddol gyson ar y Sul,” esboniodd y Cynghorydd Gareth Roberts. “Dwi hyd yn oed wedi gorfod tynnu ar fy sgiliau meddygol yn ystod un gwasanaeth, pan ddisgynnodd person oedrannus yn ddiymadferth i’r llawr. Yn ffodus i mi, roedd meddyg hefyd yn bresennol, felly rhwng y ddau ohonom ni, mi wnaethon ni joban go lew o gynorthwyo'r unigolyn. Roedd diweddglo hapus i’r stori.”
Mae Covid19 wedi gosod sawl her i Fangor fel mewn nifer o ddinasoedd a threfi ledled Cymru.
“Dwi wedi fy llorio gan niferoedd y galwadau ffôn,” eglura Garth. “Mae nifer o’r ceisiadau am gymorth wedi dod gan bobl oedrannus, rhai wedi eu hynysu i’w cartrefi a dim teulu o gwmpas i ofalu amdanynt. Dwi’n siŵr mod i wedi derbyn dros 200 o alwadau ffôn dros y cyfnod, sy'n llawer, llawer uwch na'r ffigwr arferol.
“Dwi’n ansicr sut gall cynghorydd sy’n magu teulu ifanc ac sy’n dal swydd llawn amser ymdopi â maint y gefnogaeth sydd wedi ei ofyn ohonom gan bobl leol yn ystod y pandemig hwn. Dwi’n siŵr ei bod hi wedi bod yn anodd iawn, iawn. Yn ffodus i mi, fe wnes i ymddeol yn gynnar fel dyn ambiwlans dros flwyddyn yn ôl, felly dwi wedi gallu delio â llawer o’r ceisiadau am gymorth o fewn Ward Dewi.
“Dwi yn poeni, bod y system ddemocrataidd yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc, mamau sy’n gweithio, tadau sengl, gweithwyr proffesiynol llawn amser allu ystyried cynnig eu henwau ymlaen ar gyfer sedd etholiad Cyngor Sir. Mae magu teulu ifanc ar gyflog cynghorydd Sir bron yn amhosibl.
“Mi wnes i ei gweld hi’n anodd rheoli fy amser, pan oeddwn yn dal i weithio, ar brydiau. Roedd yn anodd cadw at holl ymrwymiadau cyfarfodydd y cyngor, gofynion gwaith ward lleol ynghyd ag ymgynghoriadau pwyllgorau tra ar yr un pryd yn gweithio'n llawn amser ar shifftiau deuddeg awr fel swyddog ambiwlans.
“Ond rydyn ni angen yr amrediad a’r amrywiaeth yna o bobl yn cydweithio i gynrychioli ein cymunedau ar gynghorau sir ledled Cymru.”
Dechreuodd y cyn ŵr ambiwlansei yrfa fel nyrs wedi iddo gwblhau ei radd mewn iechyd a gwyddorau cymdeithasol. Am y 12 mlynedd lle bu’n gweithio fel nyrs, bu Gareth yn gweithio mewn ysbytai ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac fe dreuliodd y cyfnod yn gweithio fel nyrs yn yr uned gofal arbennig i fabanod.
“Treuliais beth amser yn hyfforddi yn Hosbis ‘Claire House’ yn Lerpwl hefyd, ond treuliais mwyafrif fy ngyrfa yn nyrsio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.”
Bymtheng mlynedd yn ôl, gwnaeth Gareth y penderfyniad i hyfforddi fel swyddog ambiwlans, ac mae wedi treulio'r blynyddoedd hynny yn gweithio o Fangor. Nid oedd yr un diwrnod fyth yr un fath, a thynnodd ar ei brofiad fel nyrs wrth ddelio ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau trawma, trasiedïau ac afiechydon ledled gogledd Cymru.
“Dwi’n mwynhau’r amrywiaeth rydych chi’n gael o ddelio â phobl. Ac roedd gallu cynorthwyo pobl bob amser yn dod a gwefr i mi. Mewn rhai ffyrdd mae'r profiadau hynny wedi fy helpu i fod yn well Cynghorydd hefyd.”
Mae wedi derbyn llawer o gardiau a llythyrau ‘diolch’ yn ystod ei flynyddoedd yn gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae cael tap ar ei ysgwydd wrth siopa mewn archfarchnad ym Mangor neu wrth fwynhau paned mewn caffi gan gyn glaf neu aelod o deulu claf yn ddigwyddiad lled reolaidd.
“Dwi’n tueddu i anghofio’r unigolion, ond pan maen nhw’n rhannu eu stori, mae rhywbeth yn dod â’r cyfan nôl yn fyw i’r cof. Mae pobl yn hynod garedig a diolchgar am yr hyn rydych chi wedi llwyddo i’w gyflawni yn ystod argyfwng meddygol.”
Mae Covid19 wedi dangos bod cymunedau yng ngogledd Cymru angen lefel cefnogaeth cwbl wahanol. Mae gwirfoddolwyr lleol, dan arweiniad Cynghorwyr Cymuned, Dinas a Sir gan amlaf, wedi gweithio mewn partneriaeth i ddod â chefnogaeth ymarferol i drigolion lleol.
Ym Mangor, mae’r rhwydwaith cymorth yn un gryf, gyda Bwyd i Bawb Bangor sydd AM DDIM ar agor bob dydd Sul yn swyddfa Plaid Cymru ar y stryd fawr ym Mangor, dan arweiniad ei gyd-Gynghorydd, Steve Collings rhwng 10 a 12 bob bore Sul. Mae Cyngor Dinas Bangor wedi llenwi'r bwlch a grëwyd gan gyfyngiadau Covid, felly gellir prynu bwydydd sylfaenol i gyd-fynd â'r bwyd ffres dros ben a gyflwynir gan yr archfarchnadoedd. Gyda'r gefnogaeth ychwanegol hon, mae'r cynllun bellach yn gallu cyflwyno pecynnau i bobl ledled Bangor sy'n hunan-ynysu neu'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r argyfwng.
I archebu dosbarthiad pecyn bwyd brys, anfonwch eich cyfeiriad cartref trwy DECST at: 07436 530217
Y Cynghorydd Gareth Roberts yn dosbarthu pecyn bwyd i un o drigolion Ward Dewi, Bangor
“Mae’r rhwydwaith hwn wedi bod yn amhrisiadwy,” esboniodd y Cynghorydd Gareth Roberts, “ac mae cyflwyno’r pecynnau hyn a nwyddau eraill yn rhoi cipolwg i chi ar anghenion penodol pobl. Dwi wedi gallu sicrhau cefnogaeth broffesiynol i unigolyn a oedd yn dechrau gyda symptomau dementia cynnar yn fy ward, ar ôl i mi ddanfon pecyn bwyd i'w thŷ. Heb unrhyw deulu o gwmpas i gefnogi'r wraig hon, mae ein hymyrraeth yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd yr unigolyn yma.
“Sylweddolais hefyd fod person oedrannus arall yn fy ward a gefnogais gyda danfoniadau presgripsiwn yn ei chael hi’n anodd mynd i mewn ac allan o’i drws ffrynt. Roedd risg o ddisgyn, felly gyda'n gilydd cawsom afael ar wasanaeth i sicrhau bod rheilen llaw yn cael ei gosod i ddiogelu’r wraig symud o gwmpas ei chartref ei hun.
“Dwi wedi rhoi rhai biniau olwyn ar gyfer trigolyn eiddil arall allan, wedi datrys problem boeler wedi torri ar gyfer unigolyn arall a ddoe, ces alwad yn holi sut gallwn i helpu i ddatrys problem o bla o chwain o fewn tŷ! Does yna byth funud ddiflas i’w chael,” chwarddodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Bangor.
Un peth y mae’r Cynghorydd Dinas a Sir dros Dewi yn edrych ymlaen ato unwaith y bydd y cyfyngiadau symud wedi eu lleddfu yng Nghymru: cwrdd â'i ŵyr bach newydd, Isaac. Yn saith wythnos oed, mae taith i Bournemouth ar y gweill i longyfarch ei ferch, Katie a'i phartner Mike ar y newydd-ddyfodiad. Bydd yn uchafbwynt 2020 i Gareth a'i fam.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter