Yng Nghyngor llawn Gwynedd (6 Rhagfyr) pleidleisiodd cynghorwyr Gwynedd am refferendwm i roi’r dewis i bobl Gwynedd, Cymru a’r Deyrnas Gyfunol ar ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Pasiwyd y dylai’r refferendwm gynnig y dewis i drigolion aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Gwynedd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru yw’r sir cyntaf yng Nghymru i alw am Bleidlais y Bobl.
Y Cynghorydd Judith Humphreys, Penygroes
Pleidleisiodd mwyafrif poblogaeth Gwynedd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd nôl yn 2016. Ers hynny, mae momentwm a chynnydd yn y gefnogaeth am ail refferendwm, oherwydd bod pobl yn gwybod a deall cymaint mwy am oblygiadau gadael Ewrop erbyn hyn.
Mae gwir bryder y bydd telerau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi difrod economaidd a chymdeithasol i ni, yma yng Nghymru, yn enwedig gadael heb gytundeb. Mae pryder am faterion hawliau dinasyddion Ewropeaidd, cyflenwadau bwyd a mynediad at feddyginiaethau. Mae pryder am golli swyddi a chyflogau ac mae diffyg negydu am aelodaeth Cymru o fewn y Farchnad Sengl Ewropeaidd a’r Undeb Tollau yn bryder difrifol i gymaint o’n diwydiannau.
Yn ôl y Cynghorydd Judith Humphreys, Penygroes a gyflwynodd y rhybudd o gynnig yn y cyngor llawn yng Nghaernarfon: “Ers y bleidlais wreiddiol yn 2016 i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae llawer mwy o eglurder wedi dod i’r fei ynglŷn â’r effaith y caiff gadael yr Undeb arnom yng Nghymru.
“Pleidleisiodd 58%, sef mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd, dros Aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Fel cynrychiolwyr Gwynedd, dwi’n falch ein bod wedi gwrando ar farn ein trigolion a galw am ail bleidlais nawr ein bod ni’n deall cymaint mwy.
“Mae astudiaeth gan ysgol fusnes Caerdydd yn rhybuddio pe byddem yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau y byddai Cymru yn cael ei heffeithio’n waeth na rhannau eraill o Brydain. Byddai diwydiannau ceir, dur ac aerospace yn cael eu taro’n wael gan Frexit caled. Mae’n bosib os bydd Brexit heb gytundeb, yna bydd economi Cymru’n crebachu hyd at 10%. Allwn ni ddim â fforddio hynny!”
Yn ôl ymchwil gan Populous, erbyn hyn mae bron pob un aelod o Gabinet San Steffan yn cynrychioli etholaeth sydd o blaid aros yn Ewrop.
O’r 632 etholaeth sydd ym Mhrydain, bellach mae 522 ohonynt o blaid aros.
“Yng Nghymru yn ôl y polau piniwn, mae pob etholaeth ond un o blaid aros, pob etholaeth yn yr Alban o blaid aros, a mwyafrif o etholaethau Lloegr o blaid aros am y tro cyntaf. Petae pleidlais arall ynglŷn ag aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ymchwil yn nodi y byddai aros yn ennill o 55% i 45% deg pwynt cyfan ar y blaen.
“Mae Coleg Brenhinol Meddygon teulu yn galw am Bleidlais y Bobl. Mae’r ymgyrch Gwyddonwyr dros Ewrop yn cefnogi Pleidlais y bobl. Ac yn ôl arolwg arall mae mwyafrif aelodau Undebau Unite, Unison a GMB o blaid pleidlais arall.
Mae Cyngor Sir Aberdeen, Cyngor Lerpwl, Cyngor Hounslow a Greenwich a De Lanarkshire eisoes wedi galw am bleidlais i’r bobl.
Yn ôl y Cynghorydd Humphreys: “Dyma gynghorau sy’n poeni fel ninnau bod swyddi, cyflogau a gobeithion ein hetholwyr mewn perygl o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan Brexit oblygiadau pellgyrhaeddol i’n gwaith dros dirgolion Gwynedd. Dwi’n falch mai Cyngor Gwynedd yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru ialw am Bleidlais y Bobl.
“Mae’n anfon neges glir nad ydym yn fodlon bod nyrsus a doctoriaid i weld yn gadael ein gwlad oherwydd Brexit, tra bod problemau staffio a recriwtio a rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn parhau.
“Dydyn ni chwaith ddim yn fodlon bod Brexit yn golygu ein bod yn gadael Euratom, y corff Ewropeaidd sy’n gofalu am safonau diogelwch mewn safleoedd niwclear fel Wylfa a Thrawsfynydd.
“A dydyn ni ddim yn fodlon bod porthladdoedd Cymru, fel Caergybi, wedi gorfod arwyddo cytundebau gorfodaeth i osgoi datgelu gwybodaeth fel rhan o drafodaethau Brexit gyda Llywodraeth San Steffan.
“Mae’n bwysig i’n lleisiau gael eu clywed, mae’n bwysig i lais pobl Gwynedd gael ei glywed.”
Yn ôl Aelodau Cynulliad a Seneddol Plaid Cymru, Siân Gwenllian, Liz Saville-Roberts a Hywel Williams: “Mae Plaid Cymru ar bob lefel o lywodraeth, yn gyngor sir, Cynulliad Cymru a San Steffan wedi dadlau'n gyson mai aros yn y farchnad sengl ac undebau tollau yw'r ffordd orau ymlaen. Yn y Senedd ddydd Mawrth, derbyniodd Llafur welliant pwysig Plaid Cymru, sy'n golygu bod y Senedd wedi siarad â llais clir i ddweud nad ydym yn cefnogi cytundeb Brexit y Prif Weinidog.
Credwn hefyd mai'r unig ffordd y gellir datrys Brexit yn San Steffan yn y pen draw yw trwy Bleidlais y Bobl, ac rwy'n falch bod Cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi safbwynt Plaid Cymru heddiw. Llongyfarchiadau Cyngor Gwynedd.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter