Trafodwyd y broblem gynyddol a phryderus o bobl ifanc yn smocio e-sigaréts neu 'vapes' yng Nghyngor Gwynedd yn ddiweddar. Yn y DU mae cyfran y plant sy’n arbrofi â vapes wedi cynyddu 50% yn flynyddol*, o 1 o bob 13 plentyn i 1 o bob 9 plentyn.
Cyhoeddodd arweinydd addysg Plaid Cymru, y Cynghorydd Beca Brown mewn cyfarfod llawn o’r cyngor (6 Gorffennaf) fod cynlluniau arloesol yn barod yng Ngwynedd i gefnogi disgyblion ysgol, i godi ymwybyddiaeth o beryglon e-sigaréts a chamddefnydd sylweddau gan gynnwys yr effaith negyddol y mae’n ei gael ar y corff, goblygiadau iechyd meddwl a'r elfen wrthgymdeithasol. Mae cais grant wedi ei wneud i gefnogi'r gwaith hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Elin Hywel, sy’n cynrychioli trigolion gogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd: “Fel rhiant fy hun ac yn un sy’n byw mewn tref brysur, mae 'vapes' yn prysur ddod yn broblem i deuluoedd, i gymunedau ac i ysgolion uwchradd ledled Cymru.
“Allwn ni ddim disgwyl i ddim ond staff i ddelio efo hyn o fewn ein hysgolion a’n sefydliadau addysgol. Mae angen ymateb cenedlaethol integredig o du’r Llywodraeth i fynd i’r afael â’r mater yma.
“Dwi’n bryderus ei fod yn prysur ddod yn weithgaredd sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn un a fydd yn achosi problemau dyrys i iechyd ein pobl ifanc wrth iddynt aeddfedu a dod yn oedolion. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc sy'n smocio e-sigarénnau’n ifanc, yn dod yn gaeth i nicotin ac yn troi’n ysmygwyr fel oedolion. Rydym eisoes yn ymwybodol beth yw’r goblygiadau iechyd wrth ddod yn gaeth i nicotin.
“Dwi’n falch bod Gwynedd yn cymryd camau cadarnhaol ar y mater hwn i gefnogi pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion a’n cymunedau. Mae addysg yn allweddol, ac mae angen i ni weithio’n galed, yn groes i gwmnïau rhyngwladol mawr sydd â chyllidebau marchnata enfawr sy’n denu pobl ifanc, yn anghyfrifol, i roi cynnig ar e-sigaréts blas ffrwythau, mintys a menthol mewn pecynnau lliwgar yn ein siopau a’n harchfarchnadoedd ledled Cymru. Mae’n sgandal cenedlaethol, yn fy marn i!”
Dangosodd ymchwil YouGov ar gyfer y sefydliad ASH a gyhoeddwyd fis diwethaf bod 20.5% o blant yn y DU wedi mentro rhoi tro ar 'vapes'**
Yn ôl y Coleg Brenhinol Iechyd Plant a Phediatreg; “Mae tystiolaeth gynyddol bod ‘vapes’ yn dod yn gynnyrch gaiff ei ddefnyddio i gyflwyno pobl ifanc i ddod yn gaeth i nicotin a bod pobl ifanc sydd ddim yn ysmygu ond sy’n defnyddio ‘vapes’ yn fwy tebygol na’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr i ddechrau ysmygu [sigarennau].”
Yn ôl y Cynghorydd Elin Hywel: “Mae e-sigaréts yn cael ei defnyddio fel arf effeithiol gan y Gwasanaeth Iechyd i leihau neu ddileu dibyniaeth ar sigaréts mewn ysmygwyr trwm. Fodd bynnag, yn fwy diweddar mae marchnata’r e-sigaréts wedi dod yn apelgar i bobl ifanc. Mae hysbysebu effeithiol gan gwmnïau ‘vapes’ gan dargedu ieuenctid yn broblem go iawn ledled Cymru ac yn anffodus tyda ni ddim yn gwybod beth fydd y goblygiadau iechyd hirdymor.”
Mae ‘vapes’ yn defnyddio aerosol wedi ei gynhyrchu gan e-sigaréts ac yn amlach na pheidio maen nhw’n cynnwys cymysgedd o gemegau fel nicotin â chynhwysion fel fformaldehyd ac acrolein. Mae'n wirioneddol bryderus nad oes unrhyw reolau na deddfau ynglŷn â sut mae vapes neu e-sigaréts yn cael eu cynhyrchu yn y DU.
“Fel yr arweinydd dros addysg yng Ngwynedd, allwn ni ddim claddu ein pennau yn y tywod ar y mater hwn. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r broblem yn uniongyrchol a chefnogi ein pobl ifanc i wneud penderfyniadau iechyd cadarnhaol a all fod yn hanfodol i’w bywydau yn y dyfodol,” yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru, Beca Brown.
“Mae’r ymchwil yn dangos bod yr her o daclo pobl ifanc sy’n dechrau smocio e-sigaréts yn dod o oedran penodol, sy’n gysylltiedig, yn bennaf, ag ysgolion uwchradd. O ganlyniad, mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi ysgolion i adolygu ac addasu polisïau perthnasol.
“Mae hefyd yn hanfodol bod ysgolion yn dylunio eu cwricwlwm i gwrdd â’r heriau penodol sy’n gysylltiedig â 'vapes'. Mae Cwricwlwm newydd Cymru a’r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles yn llwyfan cwbl addas i ysgolion Gwynedd gyflawni hyn.
“Fel cynrychiolydd Plaid Cymru, dwi’n falch ein bod yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r mater hwn yng Ngwynedd. Fel rhiant fy hun, mae iechyd a lles dysgwyr a phobl ifanc Gwynedd yn hollbwysig i mi.”
Wrth gloi ei sylwadau yn y cyngor, anogodd y Cynghorydd Beca Brown ei chyd-gynghorwyr i rannu a hyrwyddo ei sylwadau clo: “Mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru am unrhyw achosion anghyfreithlon o werthu ‘vapes’ i blant a phobl ifanc o dan 18 oed. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r broblem hon ar bob lefel posib.”
* & ** Mae arolwg o agweddau ac ymddygiad ysmygu a ‘vapes’ ymhlith pobl ifanc 11-18 oed, wedi ei gynnal yn y Gwanwyn yn flynyddol gan YouGov ar gyfer ASH.
Teitl yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 yw 'Action on Smoking and Health (ASH) E-cigarette use (vapes) among young people in the UK 2023.'
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen: https://ash.org.uk/uploads/Use-of-vapes-among-young-people-GB-2023.pdf?v=1686042690
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter