Am y tro cyntaf yn hanes llywodraeth leol, mae dwy ran o dair o gynghorwyr awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn perthyn i Grŵp Plaid Cymru.
Mae'r Blaid yn falch iawn o groesawu cynghorydd annibynnol o Feirionnydd i ymuno â'r grŵp cynghorwyr.
Bydd y Cynghorydd John Pughe sy’n cynrychioli Morfa Tywyn yn derbyn croeso gwresog wrth ymuno â’i gyfarfod grŵp cyntaf yr wythnos hon.
Mae’r cynghorydd newydd yn ymuno wedi i’r Blaid sicrhau buddugoliaeth mewn Isetholiad Cyngor Gwynedd yng Nghricieth. Bydd y Cynghorydd newydd, Siân Williams, hefyd yn mynychu ei chyfarfod grŵp gwleidyddol cyntaf yr wythnos hon.
Bydd Plaid Cymru bellach yn dal dwy ran o dair o seddi Cyngor Gwynedd gyda 46 o gynghorwyr o’r 69 sedd bellach yn cael eu cynrychioli gan y grŵp.
Dywedodd Cynghorydd Morfa Tywyn, John Pughe: “Rwy’n symud i grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn bennaf oherwydd y gefnogaeth a’r ymdeimlad o berthyn rwyf wedi’i brofi wrth weithio gyda’r Aelod dros Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ac Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn.
“I mi a nifer o’m hetholwyr, mae cyflawni o fewn y swydd yn hollbwysig, ac yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio fel un i gyrraedd pen y daith. Rwy’n ddiolchgar i’r grŵp annibynnol am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch yn ystod fy 20 mis gyda nhw.”
Wedi’i eni a’i fagu yn Nhywyn, mae gan y Cynghorydd John Pughe brofiad helaeth fel Cynghorydd Tref wedi iddo arwain y cyngor fel cadeirydd a chynrychioli’r dref fel maer dros y blynyddoedd.
Mae’n angerddol dros wasanaeth iechyd lleol yn Ysbyty Tywyn ac yn ymfalchïo bod ei lobïo a’i ddyfalbarhad yn gweld nyrsys ychwanegol yn cael eu lleoli yn yr ysbyty. Mae’n falch iawn o’i linach teuluol sy’n hanu nôl i’r Gwylliaid Cochion o Fawddwy; criw enwog iawn yn y parthau am weithredu’n uniongyrchol yn ôl hen chwedlau llên gwerin.
Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Cai Larsen: “Bydd ein cyfarfod grŵp gwleidyddol yn estyn croeso cynnes iawn i ddau gynghorydd sir newydd yr wythnos hon.
“Dwi’n croesawu’n gynnes i’r gorlan, ein Cynghorydd newydd dros Gricieth, Siân Williams, wedi ei buddugoliaeth ysgubol yn yr Isetholiad diweddar. Derbyniodd Siân 72% o bleidleisiau’r etholwyr, cynnydd enfawr o 30% yn y bleidlais.
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Bydd y Cynghorydd John Pughe yn ased i’n grŵp. Mae ei gryfder tawel a’i ymroddiad cydwybodol yn lleol yn ased i bobl Tywyn, a bydd cael John yn ein grŵp ninnau yn cryfhau ein tîm yng Ngwynedd.
“Mae'n gyfnod hynod heriol i ni fel cynghorau sir ledled Cymru. Ond fel tîm cryf Plaid Cymru, byddwn yn parhau i amddiffyn y bregus, cefnogi'r gwannaf yn ein cymunedau a chynnig y cyfleoedd gorau posib, y gallwn ni, i'n trigolion.”
diwedd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter