Gyda dros 2000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr, mae’r Cynghorydd sefydlodd y ddeiseb, Annwen Hughes, Llanbedr (yn y llun) yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi ac yn awyddus i bobl barhau i leisio eu barn a nodi eu hanfodlonrwydd gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru.
“Dyw barn pobl leol heb newid, mae teimladau yn parhau yn uchel yn dilyn cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am roi’r gorau i ddatblygu’r ffordd osgoi,” meddai Cynghorydd Llanbedr, Annwen Hughes.
Roedd y Cynghorydd Annwen Hughes yn trafod yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan bobl leol cyn y penwythnos. Daeth bron i 200 o bobl draw i’r hangyr ym Maes Awyr Llanbedr brynhawn ddydd Gwener (10 Rhagfyr) i leisio eu barn a chlywed y sefyllfa ddiweddaraf gan y gwleidyddion sy’n cynrychioli’r ardal.
Y Cynghorydd Annwen Hughes yn cadeirio'r cyfarfod cyhoeddus a chyfarch y dorf
“Dyw rhesymeg nac ymchwil yr adroddiad ar yr amgylchedd ddim yn taro deuddeg. Does dim sylwedd na swmp i’r gwaith ac mae cwestiynau dybryd angen eu hateb am fanylder yr ymchwil wnaeth panel y Llywodraeth.”
Bu Cyngor Gwynedd gyda chymorth arbenigwyr yn paratoi gwaith ymchwil fanwl ar bob elfen o’r cynllun i adeiladu’r ffordd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn rhagweld bydd cost y gwaith hwnnw yn cyrraedd £1.67m sef arian trethdalwyr Cymru.
Arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, Dyfrig Siencyn yn mynegi ei ddicter bod y Llywodraeth wedi eu camarwain
“Dwi’n anniddig iawn am yr ymchwiliad a gynhaliwyd ac yn teimlo i ni gael ein camarwain yn llwyr gan y Llywodraeth,” meddai arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
“Dwi wedi cyfleu hynny i’r Prif Weinidog mewn llythyr. Mae bylchau yn yr ymchwiliad gan y Llywodraeth a diffyg cydnabod llawer o waith cefndir gan Gyngor Gwynedd. Er enghraifft, mae asesiad adolygu ffyrdd a yrrwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2021 yn dangos byddai gostyngiad o 3.6% yn lefel CO2 yn Llanbedr.
“Roedd y dystiolaeth yma yn y Datganiad Amgylcheddol oedd yn rhan o’r cais cynllunio llwyddiannus. Roeddem ni o’r farn bod cyfle gwirioneddol yma i gael enghraifft o ymarfer da, ac ymateb cadarnhaol i’r her amgylcheddol fyddai’n arwain at leihad, nid cynnydd, mewn allyriadau CO2 traffig.
“Byddai hefyd wedi cynnig gwelliant mewn ansawdd awyr rhanbarthol wedi i’r ffordd osgoi gael ei gwblhau. Ond, mae fel petai’r ymchwil yma wedi ei ddiystyru’n llwyr. Mae’r glec economaidd a’r glec gymunedol i bobl leol yn enfawr.
“Oherwydd yr elfennau yma a nifer o ffeithiau eraill sydd heb eu hystyried, dwi wedi holi ein tîm cyfreithiol i ystyried opsiynau cyfreithiol am ddilysrwydd penderfyniad y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, i wyrdroi ymrwymiad cytundebol ariannol Llywodraeth Cymru i’r cynllun.”
Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd wedi holi'r Prif Weinidog ar lawr y Senedd am ffordd osgoi Llanbedr
Mae’r pwysau yn parhau ar y Llywodraeth gan Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor hefyd. Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mercher (8 Rhag) holodd pam bod anghysonderau yn yr adolygiad wrth eithrio ffyrdd cyswllt diwydiant trwm sef y ffyrdd mwyaf llygredig o’r ymchwiliad ond oedi’r ffyrdd cyswllt diwydiant ysgafn, sy’n gwasanaethu ardaloedd gwledig, fel Llanbedr.
“Dyw atebion y Prif Weinidog ddim yn foddhaol. Mae’r costau sydd ynghlwm â’r gwaith hyd yma, sef arian trethdalwyr, yn ddigon i rywun gwestiynu oedi datblygu’r ffordd yma. Heb sôn am gostau sefydliadau a busnesau eraill wrth ddrafftio tendrau a chynlluniau.
“Mae gwrthod y datblygiad ar sail amgylcheddol yn wyddonol amheus gan fod tystiolaeth y Cyngor Sir yn dangos yn glir y gellir gwneud arbedion allyriadau carbon sylweddol wrth ddatblygu ffordd osgoi a lleihau’r cyflymder. Mae’r ardaloedd trefol a dinesig wedi cael buddsoddiadau sylweddol yn eu hisadeiledd dros y degawdau, sydd wedi arwain at ddenu cyfoeth a swyddi o ansawdd i’w hardaloedd. Mae’r buddsoddiad yma yn arfordir Ardudwy yn bitw o’i chymharu â’r hyn mae’r llefydd mwy yn ei gael, ond yn gwbl angenrheidiol. Mae gan drigolion Llanbedr achos cyfiawn yma, er lles eu hiechyd, eu diogelwch, a lles cymunedol - mae’r angen am y ffordd osgoi yn glir.”
Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn cyfarch y cyfarfod
Yn ôl y Cynghorydd Annwen Hughes: “Dwi’n annog pobl i nodi eu hanfodlonrwydd ac arwyddo’r ddeiseb i gyfleu eu teimladau. Mae’n bwysig i ni ddangos i Lywodraeth Cymru bod gwrthod datblygu’r ffordd yma’n cael effaith pellgyrhaeddol ar ein pentref a holl arfordir Ardudwy. Dyw’r ffaith ein bod ni’n ddaearyddol bell o Gaerdydd, ddim yn esgus i’r Llywodraeth anghofio amdanon ni. Dwi’n erfyn ar bawb yn y fro i ymateb ac yn annog eraill i lofnodi’r ddeiseb er mwyn i ni ddadlau’r achos yn gryf.”
I arwyddo’r ddeiseb, ewch i dudalen Deisebau Senedd Cymru: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245002
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter