Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Glyder, Bangor yn Gadeirydd newydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd wrth i'r Cynghorydd Morfa Nefyn, Siân Hughes ymddiswyddo, er mwyn datblygu ei gyrfa nyrsio.
Cynghorydd Sian Hughes, Morfa Nefyn yn trosglwyddo’r gadeiryddiaeth i Gynghorydd Bangor, Elin Walker-Jones gydag arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn yn ei chroesawu
"Rydym yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Siân Hughes am ei gwaith dros y misoedd diwethaf," meddai arweinydd y grŵp, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
"Mae wedi datblygu i'r rôl, wedi ennill profiad ac wedi cynnig llais cadarn yn ystod ei gwaith i'r grŵp. Bydd yn parhau yn gynrychiolydd clodwiw i'w hardal ym Morfa Nefyn, wrth iddi ddatblygu ei gyrfa nyrsio. Diolch yn fawr iawn iddi."
"Croesawn y Cadeirydd newydd, y Cynghorydd o Fangor, Elin Walker Jones. Mae'n gynghorydd brwd, a diddordeb mawr yn yr iaith a'r diwylliant, ac mae'n gweithio fel seicolegydd ym maes plant ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
"Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag Elin a dwyn ar ei phrofiad a'i harbenigedd dros y misoedd nesaf."
Etholwyd Elin Walker Jones i'r rôl yn ddiwrthwynebiad ac mae'n cychwyn ar y gwaith ar unwaith.
diwedd
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter