Mae Cynghorydd Plaid Cymru o Bwllheli am weld Cyngor Gwynedd yn gosod cynsail a gwneud datganiad clir mewn cyfnod o ryfel bod Gwynedd yn lle sy’n arddel heddwch, parch a chefnogaeth.
Bydd y Cynghorydd Elin Hywel (llun uchod) yn cyflwyno rhybudd o gynnig yng nghyfarfod y cyngor llawn (dydd Iau 7 Rhagfyr) gan alw am gefnogaeth yr holl gynghorwyr: “Mae safbwynt y cynnig yn glir - condemniad llwyr o weithgaredd treisgar a rhyfelgar yn erbyn sifiliaid.
“Does dim all gyfiawnhau gweithredoedd Hamas sy’n ymosod ar bobl gyffredin Israel gan gymryd gwystlon ac yna gwrthod eu rhyddhau yn syth. Ac mae ymateb anghymesur Israel yn erbyn trigolion cyffredin Palestina yn gyfateb â chosb gyfunol, sy’n dor-cyfraith rhyngwladol. Mae’r dioddefaint yn hollgynhwysol.
Dwi’n teimlo’n gryf bod methiant ein llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain i gondemnio’n glir y fath golledion i fywydau yn gwbl warthus. Mae’n gosod cynsail dychrynllyd o’r hyn a ystyrir yn dderbyniol mewn cyfnod o ryfel.
“Mae methiant ein llywodraethau i roi arweiniad wedi annog gwrthdaro ac anghydfod yn ein cymunedau. Cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw llenwi’r gwagle trwy gynnig arweiniad clir i warchod lles ein cymunedau drwy annog heddwch, parch a chefnogaeth i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd yn Gaza.
“Mae’n fraint cael galw am heddwch o safle diogel ac mae cynnal heddwch yn waith caled, ond mae Gwynedd yn barod i wneud y gwaith yma.
“Rhaid cael rhaglen gynhwysfawr o gymorth i Gaza o Gymru. Dwi’n galw am gefnogaeth fy nghyd-gynghorwyr yng Ngwynedd i ddatgan yn swyddogol ein bod ni’n galw am gadoediad parhaol a di-droi nôl yn Gaza. Ac erfyn ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r gymuned ryngwladol i ddychwelyd at y bwrdd trafod a dod o hyd i ddatrysiad teg a chyfiawn i holl drigolion Palestina ac Israel. Erfyniwn am ddatrysiad heddychlon."
Cefndir
Mae mwy na 14,500 o Balestiniaid yn Gaza wedi eu lladd gan fyddin Israel, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas yn Gaza[1] [diwedd Tachwedd wrth gyflwyno’r rhybudd o gynnig, noder bod y ffigwr erbyn heddiw dros 15,000]. Mae 40% o’r rhai sydd wedi eu lladd yn blant[2].
Mae o leiaf 521 o bobl, gan gynnwys 16 o weithwyr meddygol, wedi eu lladd mewn 137 o “ymosodiadau ar ofal iechyd” yn Gaza ers Tachwedd 12. Mae’r ymosodiadau, ochr yn ochr â phenderfyniadau Israel i dorri cyflenwadau trydan a dŵr gan rwystro cymorth dyngarol i Gaza, wedi rhwystro mynediad at ofal iechyd yn ddifrifol.
Canfu’r Cenhedloedd Unedig ar Dachwedd 10 nad yw dwy ran o dair o gyfleusterau gofal sylfaenol a hanner yr holl ysbytai yn Gaza yn gweithredu ar adeg pan mae personél meddygol yn delio â niferoedd digynsail o gleifion sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol. Mae ysbytai wedi rhedeg allan o feddyginiaeth ac offer sylfaenol[3].
Yn ôl y Cynghorydd Elin Hywel: “Rydyn ni’n ymwybodol bod trigolion Palestina ac Israel wedi ymgartrefu yma yng Ngwynedd a bod nifer o drigolion Gwynedd â chysylltiadau agos â nhw. Rydym am chwarae ein rhan i sicrhau bod Gwynedd a Chymru’n groesawgar, yn lleoliad diogel ac yn ymdrin yn deg â phawb.
“Yng nghanol y fath gythrwfl, rydym yn cydymdeimlo a chyd-alaru â’r rhai sydd wedi eu heffeithio yma yng Ngwynedd a thu hwnt.”
Yn ôl arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, Dyfrig Siencyn (llun uchod): “Mae’n dristwch o’r mwyaf gweld a chlywed cymaint o straeon a delweddau am bobl ddiniwed yn cael eu lladd a’i niweidio yn Gaza ac Israel. Erfyniwn am gadoediad parhaol a chaniatáu rhyddhau gwystlon yn ddiogel a sicrhau bod cymorth dyngarol yn cyrraedd trigolion ar fyrder.
“Rydym yn sefyll yn gadarn gyda thrigolion Israelaidd a Phalestinaidd yng Ngwynedd a Chymru gyfan gan estyn llaw o gariad a gofal iddynt yn ystod y cyfnod cythryblus yma.”
[1] Israel Gaza war: History of the conflict explained
[2] 40 percent of Palestinians killed in Gaza are children l Defense for Children International - Palestine
[3] Gaza: Unlawful Israeli Hospital Strikes Worsen Health Crisis | Human Rights Watch (hrw.org)
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter