Galwad gan Gynghorydd newydd i weithredu ar broblemau tai yng Ngwynedd

Yng Nghyngor llawn Gwynedd yn ddiweddar galwodd un o gynghorwyr newydd Plaid Cymru am gefnogaeth ei aelodau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar ganlyniadau ymgynghoriadau ym maes tai.

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Tudur, sy’n cynrychioli trigolion Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gynnig cynigion concrid o fewn tri maes penodol ym maes tai i geisio diwallu’r angen am gartrefi i bobl leol.

Caeodd y Llywodraeth dri ymgynghoriad nôl yn niwedd mis Mawrth:

  1. deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
  2. cynllun tai cymunedau Cymraeg
  3. amrywiadau lleol i gyfraddau treth trafodion tir ym maes ail gartrefi

“Roedd y tri ymgynghoriad yn cynnig atebion arwyddocaol i broblem ail gartrefi.

 “Y cyntaf yn creu dosbarth cynllunio penodol sy’n declyn effeithiol i roi cap ar niferoedd yr ail dai mewn ardaloedd.

 “Yr ail yn creu treth tir benodol ar ail dai wrth fynd drwy’r broses prynu.

 “A’r trydydd yn cynnig gwell gwarchodaeth i gymunedau lle mae’r Gymraeg yw prif iaith y boblogaeth, trwy roi mesurau penodol yn eu lle, fel, cyfnod blaenoriaeth i brynwyr lleol.

 “Dwi’n canmol ac yn diolch i’r Llywodraeth am ddod a chynigion clodwiw i’w trafod.

“Ond, rydyn ni ar drothwy’r haf, a does dim gair wedi dod gan y Llywodraeth Lafur am y ffordd ymlaen. Tra’n bod ni’n disgwyl cynigion i’w cyhoeddi sy’n deillio o’r ymholiadau a’r cwestiynau a holwyd gan y Llywodraeth i bobl leol, mae’r sefyllfa dai yma yn Llŷn ac Eifionydd yn gwaethygu.

“Mae’n amser cael arweiniad clir a phendant gan y Llywodraeth am yr hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud i ddylanwadu ar y farchnad dai ac i gynnig rheolaeth ar niferoedd yr ail dai yn ein cymunedau, er mwyn i bobl leol allu cystadlu yn fwy teg i rentu neu brynu eiddo ym mro eu mebyd.”

“Dyna’r rheswm dwi wedi rhoi’r cynnig yma gerbron y cyngor llawn heddiw, fel bod neges glir yn mynd lawr i Gaerdydd o Wynedd yn pwyso am symud llawer cynt ar y materion hyn.”

Mae cynllun gweithredu tai gwerth £77miliwn Gwynedd yn dangos ymrwymiad Plaid Cymru, sy’n arwain Cyngor Gwynedd, i flaenoriaethu’r sector dai i bobl y sir. Pasiodd Cynghorwyr Gwynedd (23 Mehefin) gynnig y Cynghorydd Tudur i bwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau ym maes ail dai.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2022-06-30 16:14:04 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns