Mae Cynghorwyr Porthmadog yn falch bod arweiniad y Blaid ar Gyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid gwerth bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd i wella adnoddau ac amgylchedd dysgu yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Diolch i gais grant llwyddiannus gan Llywodraeth Cymru, bydd gwelliannau i gampfa a thoiledau’r ysgol yn dechrau yn yr ysgol yr wythnos nesaf.
Yn ôl y Cynghorydd dros Orllewin Porthmadog, Selwyn Griffiths sydd hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Eifionydd: “Rydyn ni’n croesawu’r buddsoddiad a’r gwaith sylweddol sydd ar droed i wella’r ysgol. Mae gwella cyfleusterau’r gampfa sydd ar gael i ddisgyblion y dalgylch a’r gymuned yn newyddion da iawn. Y gobaith yw o godi safon y ddarpariaeth y bydd yn hybu mwy o’n bobl ifanc i ymgymryd ag ymarfer corff sy’n cadarnhau ethos yr ysgol o hyrwyddo iechyd a lles disgyblion yn llwyddiannus. Diolch i bawb am y cydweithio ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith wedi ei gwblhau.”
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r buddsoddiad i Ysgol Eifionydd, sydd wrth galon ein cymuned yma ym Mhorthmadog,” meddai’r Cynghorydd dros Ddwyrain Porthmadog, Nia Jeffreys sydd hefyd yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Eifionydd: “Bydd y gwaith yn arwain at wella’r amgylchedd dysgu a lles ein disgyblion i’r dyfodol. Mae aelodau o gyngor yr ysgol wedi cyfrannu at y broses yn dilyn eu pryder bod angen gwella adnoddau toiledau’r ysgol. Mae’n wych bod lleisiau’r bobl ifanc wedi ei glywed a diolch iddynt am godi’r mater.
Mae’r Blaid yng Ngwynedd yn falch y bydd saith o ysgolion eraill y sir yn elwa o’r buddsoddiad o raglen Llywodraeth Cymru i wella cyflwr ac addasrwydd ysgolion y sir. Yn eu plith bydd ysgolion cynradd Bethel, Llanrug, Ffridd y Llyn ger y Bala, ac ysgolion uwchradd Glan y Môr, Botwnnog a Syr Hugh Owen.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter