Beca Brown o Lanrug sydd wedi ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Is-Etholiad Llanrug Cyngor Gwynedd y mis nesaf: “Byddai’n fraint dilyn ôl troed y diweddar Gynghorydd Plaid Cymru, Charles Jones.”
Yn ôl y Cynghorydd Cymunedol dros Llanrug: “Roedd Charles Jones yn gynrychiolydd arbennig dros ein cymuned ac mi fyddwn yn falch iawn o allu parhau â’i waith da. Mae rhoi llais cryf i'r gymuned hon ar lefel cyngor sir, yn sicr yn un o fy mhrif amcanion.”
Mae Beca wedi hen arfer torchi llewys a chydweithio o fewn ei chymuned er mwyn ceisio gwneud gwahaniaeth. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae hi wedi bod yn rhan o'r amrywiol gynlluniau bwyd a sefydlwyd yn Llanrug ers i COVID-19 ymddangos.
Dywedodd Beca Brown: “Dwi wedi gweithio’n agos ar y prosiectau bwyd gyda Chynghorydd Cwm y Glo, Berwyn Parry Jones, ac mae o wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y cynllun cinio dydd Sul, pecynnau bwyd a rhoddion FareShare. Felly, dwi wedi cael cipolwg gwerthfawr ar waith y cyngor, diolch i gefnogaeth Berwyn.
“Dwi wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol yma yn y pentref ers tair blynedd a chyfiawnder cymdeithasol ydi fy mhrif flaenoriaeth. Rŵan, yn fwy nag erioed, mae angen cymunedau cryf a chydweithredol lle mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd ei angen.”
“Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, dewisais Llanrug fel y pentref i fagu fy mhlant, ac yn sicr mae Leisa a Tomi yn blant Llanrug go iawn. Mae fy nghysylltiadau efo Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Brynrefail; Eisteddfod Bentref Llanrug a thîm pêl-droed iau, Llewod Llanrug, yn sicr wedi sicrhau fy mod innau hefyd wedi gwreiddio yn y gymuned glos yma.”
Wedi nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant cyfryngau, mae Beca, dros y tair blynedd diwethaf, wedi bod yn gweithio'n rhan amser, i gwmni lleol o'r enw, SaySomethinginWelsh. Prif nod y cwmni yw dysgu a chefnogi pobl, ledled y byd, sut i siarad Cymraeg.
Mae Beca wedi bod yn weithgar gyda Phlaid Cymru ers blynyddoedd ac mae'n cynrychioli aelodaeth Gogledd Cymru ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Mae hi wedi ymgymryd â swyddi allweddol o fewn etholaethau Plaid Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n gyn Swyddog Cyfathrebu i Aelod y Senedd dros Arfon, Sian Gwenllian.
Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker-Jones: “Rydym yn falch iawn o groesawu Beca Brown fel ein hymgeisydd yn Llanrug. Mae'n brofiad chwerwfelys, gan fod colli ein cyn-gydweithiwr yn parhau yn fyw yn y cof. Roedd y Cynghorydd Charles Jones yn ŵr bonheddig a bydd ymgyrch Beca, heb os, yn un anrhydeddus.
“Mae Beca yn dod â brwdfrydedd heintus, agwedd gadarnhaol a phrofiad helaeth o’r byd gwleidyddol i’r rôl. Mae ei hangerdd dros ei chymuned yn amlwg, mae ganddi werthoedd cryf ac mae'n eiriolwr dros gyfiawnder cymdeithasol; egwyddorion rydym ni, fel Plaid Cymru Gwynedd, yn credu'n gryf ynddynt.
“Yn gyfathrebydd profiadol, mae ganddi gysylltiadau cymunedol cryf o fewn Llanrug, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi dros gyda’i hymgyrch.”
Cynhelir Is-Etholiad Ward Llanrug, Cyngor Gwynedd ddydd Iau, 25 Mawrth 2021.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter