Bydd rhai o fanciau bwyd Gwynedd yn cynnig mwy na dim ond cynhaliaeth i deuluoedd bregus yn ystod mis Tachwedd. Diolch i gynllun Caru Darllen ysgolion y Cyngor Llyfrau, bydd rhai o fanciau bwyd y sir yn rhoi llyfrau am ddim i blant gyda’r pecynnau bwyd i deuluoedd.
Bydd rhai o drigolion ardaloedd Llanrug, Cwm y Glo, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen acardaloedd eraill yn cael cynnig y llyfrau wrth fynd i godi eu pecynnau bwyd wythnosol o Gynllun Bwyd Llanrug, Pantri Cymunedol yr Orsaf a Hwb Ogwen, i enw dim ond rhai.
Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson sy’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar Gyngor Llyfrau Cymru: “Mae hwn yn gynllun cyffrous sy’n ceisio cael plant o bob oed a chefndir i godi llyfr a gwneud darllen yn arfer oes.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod heriau economaidd a chymdeithasol yn rhwystr i rieni gyflwyno llyfrau i’w plant, felly trwy’r cynllun yma, gall y rhieni fanteisio o godi eu bwyd a chodi adnoddau i’w plant eu darllen gartref.”
Mae pecynnau cynhwysfawr o 50 o lyfrau ar gael ar gyfer banciau bwyd, felly os bydd banc bwyd angen mwy nac un pecyn i’w dosbarthu yn eu lleoliadau, mae croeso iddynt gysylltu â’r Cyngor Llyfrau i’w harchebu.
Un o’r cynghorwyr sy’n falch bod modd cynnig mwy na dim ond bwyd o Gynllun Bwyd Llanrug sy’n trefnu a phecynnu’r bwyd o hen ysgol Cwm-y-Glo, yw’r Cynghorydd sir lleol, Berwyn Parry Jones (yn y llun uchod ar y dde gyda'r Cyngh Paul Rowlinson)
“Mae’r banc bwyd yn ein hardal ni yn adnodd hollbwysig i rai o’n trigolion bregus. Mae’n dorcalonnus bod rhaid i ni weithredu cynllun o’r fath yn yr unfed ganrif ar hugain a ninnau i fod yn gymdeithas wâr.
“Ar y cyd â’r Cyngor Cymuned yn Llanrug a’m cyd-weithiwr, y Cynghorydd Beca Brown (ar y dde yn y llun uchod), rydyn ni’n codi bwyd FairShare o Fangor bob dydd Gwener, dod â’r bwyd i Gwm y Glo, ei becynnu ac yna’i ddosbarthu i 40 o dai yn wythnosol.
O ganlyniad i Gynllun Bwyd Llanrug, mae dros 50 o oedolion a bron i 25 o blant yn derbyn cymorth cymunedol bob wythnos.
“Mae rhoddion ychwanegol o lyfrau i blant eu darllen yn gyfle arall i ni gefnogi teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Llyfrau Cymru am roi’r cyfle i ni gyrraedd at blant, a allai ei gweld hi’n anodd cael hyd i lyfrau cyfoes, newydd a hynny am ddim. Mae’r rhodd o lyfr yn anrheg amhrisiadwy i blant,” meddai’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones.
Am wybodaeth bellach am y cynllun, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.llyfrau.cymru/carudarllen neu gysylltu trwy ebost â [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter