Mae’r Cynghorydd Sir dros Gerlan, Bethesda, Paul Rowlinson (yn y llun), yn falch bod cwmni bysiau Arriva wedi gwrando ar gri trigolion lleol i sicrhau y bydd gwasanaeth bws yn teithio o Fangor i Gerlan o’r cyntaf o Dachwedd ymlaen.
“Roedd pawb yn deall bod gwasanaethau bws yn cael eu cwtogi yn ystod y cyfnod clo dros yr haf a bod y bws o Fangor yn gorffen ei thaith ym Methesda yn ystod y cyfnod hwnnw,” eglurodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, sy’n cynrychioli trigolion Gerlan ar Gyngor Gwynedd.
“Ond pan gyhoeddwyd yr amserlen newydd ym mis Medi, gwelsom fod y cwmni am wneud y newid hwn yn barhaol. Byddai hyn yn peri problem fawr i drigolion Gerlan sy’n dibynnu ar y bws, yn enwedig pobl hŷn.
“Mae’r pentref ar ben gallt ac mae’n anodd cerdded adref gyda llond eich breichiau o fagiau siopa. Roedd hi’n annheg ar drigolion Gerlan bod y gwasanaeth bws yn dod i stop ym Methesda.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Rheinallt Puw (yn y llun), sy’n cynrychioli trigolion Ward Ogwen: “Mae hi’n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus fel hyn ar gael i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hi’n dyngedfennol bwysig ein bod ni’n ei gwneud yn hawdd i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fydd y pandemig drosodd, er lles yr amgylchedd hefyd.
Cafodd y ddau gefnogaeth gan eu cyd aelodau Plaid Cymru, Aelod o Senedd Cymru, Siân Gwenllian dros Arfon a’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, a oedd wedi pwyso ar gwmni bysiau Arriva i ail gyflwyno’r gwasanaeth i Gerlan.
Y Cynghorydd Paul Rowlinson ger arhosfan bws Gerlan
Yn ôl y Cynghorydd Rowlinson: “Dwi’n falch iawn bod Arriva wedi gwrando arnon ni’n lleol ac wedi cytuno y bydd chwe bws y dydd yn teithio yr holl ffordd i fyny i Gerlan o’r cyntaf o Dachwedd ymlaen. Bydd y bws yn teithio i Gerlan bob dwy awr yn ystod y dydd, fydd yn help garw i bobl yr ardal yma. Diolch i bawb am y cydweithio.”
* Cofiwch ddilyn rheolau a chanllawiau Llywodraeth Cymru wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Hyd y 9 o Dachwedd, ni ddylid teithio oni bai ei bod hi’n hanfodol e.e. ar gyfer cyfrifoldebau gofalu neu at ddibenion gwaith. A chofiwch bwysigrwydd gwisgo mwgwd, cadw pellter a golchi eich dwylo yn rheolaidd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter