Yn ystod y cyngor llawn heddiw (dydd Iau, 7 Rhagfyr), cododd y Cynghorydd dros Ward Llanwnda, Huw Rowlands (yn y llun) bryder am ddatblygiadau tai yn cael eu hoedi yng Ngwynedd oherwydd pryder am ansawdd y dŵr yn Afon Gwyrfai.
Oherwydd cyfyngiadau ar allyriadau ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a osodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae gwaith trin Dŵr Cymru yn Llanfaglan yn cael effaith negyddol ar ansawdd dŵr Afon Gwyrfai. Mae’r broses o drin dŵr a gwaredu gwastraff i’r afon yn codi lefel y ffosfforws sy’n andwyol i’r amgylchedd.
Yn ôl y Cynghorydd Huw Rowlands: “Yma yn lleol, mae’r broblem yn effeithio ar stad o dai newydd yn y ward yn Dinas. Mae rhan gyntaf y stâd newydd o 26 tŷ, yn Gwêl y Foel, wedi ei gwblhau, ond mae ail ran y datblygiad ar stop ar hyn o bryd nes bydd lefel y ffosfforws wedi ei datrys.
“Mae’r argyfwng tai yn effeithio ar drigolion yr ardal. Felly, mae cael unrhyw weithred sy’n rhoi stop ar ddatblygiadau i gartrefu pobl leol yn bryderus. Dim ond un rhan o’r sir yw hon, faint o ardaloedd eraill o fewn Gwynedd y gall hyn effeithio arnyn nhw?”
Does dim penderfyniad wedi ei wneud ar naw cais cynllunio yng Ngwynedd oherwydd ffosffadau, ac mae nifer hefyd wedi eu gwrthod. Mae ceisiadau am 26 o dai (cymysgedd o dai marchnad agored a thai fforddiadwy) yn Bontnewydd, a datblygiad o 16 tŷ fforddiadwy yn Ninas, Caernarfon wedi eu gohirio ar hyn o bryd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad o drwyddedau cwmnïau dŵr yn erbyn y targedau ffosfforws sydd wedi eu diwygio, ac mae targed i gwblhau’r gwaith erbyn Gorffennaf 2024. Mae Cyfoeth Naturiol yn rhyddhau’r trwyddedau diwygiedig wedi eu cwblhau ond does dim dyddiadau targed ar gyfer afonydd unigol. Hyd yma, does dim trwyddedau diwygiedig wedi eu cyhoeddi yng Ngwynedd.
Yn ôl aelod cabinet Cyngor Gwynedd sydd â’r cyfrifoldeb dros gynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Rydym fel cyngor yn cael ein dal rhwng dwy stôl yn y mater yma. Ar un llaw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio lleihau allyriadau ffosffad i’n hafonydd, ac ar y llaw arall, mae’r targedau allyriadau ar gyfer y canolfannau trin gwastraff wedi eu haddasu.
“Unwaith y bydd y trwyddedau wedi eu hadolygu a’u cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gall Dŵr Cymru drafod cysylltiadau a chapasiti’r gwaith trin dŵr gyda ni, fel Cyngor, yn yr ardaloedd penodol.
“Nes bydd hynny wedi digwydd, mae ein dwylo, fel awdurdod cynllunio wedi eu clymu. Y cysur sydd gennym ni, ar hyn o bryd yw bod lefelau ffosffad yn Afon Gwyrfai a Glaslyn, o fewn y trothwy ar hyn o bryd. Mae tua 80% o ffosfforws yn deillio o waith trin Dŵr Cymru yn y Gwyrfai, gyda 16% o ddefnydd tir gwledig.
“Ond, wrth edrych ar geisiadau newydd, mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn nodi’n glir bod rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effaith y ffosfforws all ddeillio o ddatblygiadau newydd ar ansawdd dŵr o fewn dalgylch afonydd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter