Plaid Cymru Caernarfon ar flaen y gad wrth gynorthwyo pobl dre

Dros y penwythnos, bydd rhai o blant tref Caernarfon yn derbyn syrpreis ar eu stepen drws! Bydd aelodau Plaid Cymru cangen Caernarfon yn dosbarthu 250 o offer gwnio i blant y dref, fel rhodd i godi calonnau ac i ysgogi creadigrwydd ar ddechrau gwyliau’r haf.

“Offer chwaraeon wnaethon ni ddosbarthu’r mis diwethaf. 150 beli pêl droed, 80 hula hoop ac 20 o raffau sgipio i annog plant i symud a chwarae. Doedd y gŵr ddim yn siŵr lle i eistedd, o weld 150 o beli pêl droed angen eu pwmpio yn y tŷ,” chwarddodd y Cynghorydd tref dros Gadnant, Dawn Lynne Jones.

(Llun: Dawn Lynne Jones)

“Diolch byth, daeth help llaw gan ffrindiau, a llwyddwyd i chwythu aer i’r cwbl, cyn i ni ddechrau ar y dasg o ddosbarthu’r anrhegion. Mae’r offer gwnio yn becyn sy’n annog y plant i greu cylch goriad pêl droed neu un pili pala, fel bod ganddynt rywbeth i’w gadw wedi cwblhau y gwaith llaw.”

Dyma dair o’r tasgau i blant sydd wedi ei gwneud yn Ward Cadnant Caernarfon ers i Covid19 daro’r dref. Mae cynghorwyr ac aelodau’r Blaid wedi gweithio’n ddygn i gynorthwyo’r gymuned i daclo’r argyfwng Coronofeirws sydd wedi amharu ar fywyd y dref, fel ym mhobman ledled Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Cai Larsen, sy’n cynrychioli Ward Seiont, Caernarfon ar Gyngor Gwynedd: “Dwi’n hynod o falch bod pawb wedi cydweithio mor hwylus i gefnogi trigolion bregus y dref. Mae rhai yn hŷn, rhai yn sâl, rhai yn hunan-ynysu a rhai yn cwffio i gael dau ben llinyn ynghyd er mwyn bwydo eu teuluoedd.

“Rydyn ni, yng Nghaernarfon, wedi wynebu’r ystod o broblemau sydd wedi taro nifer o gymunedau, wrth ddelio gyda Covid19. Ond yma yng Nghaernarfon, mae’r estyn llaw i helpu’n gilydd wedi bod yn bleser i’w weld.”

(Llun: dau o blant Cadnant yn mwynhau'r rhoddion)

Cyn i’r offer celf a chrefft ac ymarfer corff gyrraedd plant y dref, trefnwyd te prynhawn i’r trigolion, diolch i gefnogaeth gan y Cynghorydd Cemlyn Williams sy’n cynrychioli Ward Cadnant ar Gyngor Gwynedd. Dosbarthwyd dros 200 o sgons, menyn, hufen a jam i stepen drws y cartrefi a dyna fu dechrau’r drefn o gynnig rhodd i’r plant.

“Dechrau efo potiau blodau i’r plant wnaethon ni,” eglura’r Cynghorydd Dawn Lynne, “ac mi gawson ni gefnogaeth ariannol gan Mantell Gwynedd.

“Llywodraethwyr Ysgol Maesincla ddechreuodd y syniad hwnnw, ac fel un ohonyn nhw, bues i wrthi’n paratoi 400 o botiau blodau bach i’w rhannu ymysg y plant. O fanno, datblygodd y syniad o syrpreis stepan drws a bu’r Cynghorydd Cemlyn Williams a minnau’n cydweithio ar y cam nesaf, o brynu offer amrywiol i’r plant sy’n byw yn Ward Cadnant.”

Yn ôl y Cynghorydd Cai Larsen: “Mae’r gwaith mae Dawn Lynne a Cemlyn wedi ei wneud yn wych ac mae’n rhan o’r jig-so mawr sydd yma yn nhref Caernarfon i gefnogi pobl.

Prosiect llwyddiannus arall sydd wedi bod yn rhan hynod bwysig o ymateb y Blaid yng Nghaernarfon i’r argyfwng, yw Cofis Curo Corona. Mae pedwar o’r pump cydlynydd yn aelodau o gangen y Blaid yng Nghaernarfon - Dewi Jones, Dawn Jones, Richard Thomas a Cai Larsen ac mae Anna Jên, un o’n haelodau wedi gweithio’n ddygn i gynorthwyo trigolion y dref.

Yn ôl y Cynghorydd tref dros Ward Seiont, Richard Thomas: “Sefydlwyd Cofis Curo Corona yn gyflym, er mwyn ymateb i’r heriau oedd yn wynebu’r dref. Mae’n grŵp amhleidiol efo pawb yn cydweithio er lles ein trigolion mwyaf bregus. Fel cynghorwyr, rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar i aelodau cangen y Blaid yng Nghaernarfon am eu gwaith caled gyda’r grŵp, yn eu mysg, Laura Cameron, Lowri Ifor a Marged Tudur.”

Prif waith y grŵp yw cludo meddyginiaeth i bobl sy’n gorfod hunan ynysu. Maen nhw hefyd wedi bod yn trefnu i wirfoddolwyr siopa i bobl sy’n gorfod hunan ynysu. Tasg arall sy’n wynebu’r criw yw trefnu i bobl sydd yn ei chael hi’n anoddach yn ariannol oherwydd lleihad mewn incwm i gael mynediad at becynnau bwyd am ddim.

Yn ôl y Cyngh Cai Larsen: “Mae’r Blaid sy’n arwain ar Gyngor Gwynedd wedi bod yn eithriadol o brysur yn rhoi gweithdrefnau newydd yn eu lle i ddelio efo’r aflwydd pandemig ma ledled y sir. A dwi’n falch bod y Cyngor yn darparu bwyd i bobl pan maen nhw mewn angen.  Fel aelodau o Gabinet Cyngor Gwynedd mae Cynghorwyr Ioan Thomas a Cemlyn Williams wedi bod yn arwain ymateb y Cyngor Sir i’r argyfwng.

“Rydym fel Plaid yn lleol wedi cydweithio efo Cyngor Tref Caernarfon i sicrhau bod grantiau’n cael eu dosbarthu o gronfa argyfwng y Cyngor i grwpiau cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau ar lawr gwlad i bobl y dref.”

Un sydd wastad yn flaenllaw ei arweiniad yn y dref yw’r Cynghorydd Plaid Cymru dros Ward Peblig, Kenny Khan. Mae ei ymgyrch yn parhau yn y dref i sicrhau bod gan drigolion fynediad i focsys bwyd gyda chymorth a chefnogaeth aelodau’r Blaid. Diolch i archfarchnadoedd y dref am eu rhoddion o fwyd sy’n dynesu at eu dyddiad gwerthu olaf.

Mae nifer o aelodau’r Blaid yng Nghaernarfon hefyd, gan gynnwys y Cynghorydd dros Ward Menai, Ann Hopcyn wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi mygydau i gynorthwyo gwirfoddolwyr wrth fynd o gwmpas y dref yn ddiogel.

Yn ôl y Cynghorydd Cai Larsen: “Mae cynghorwyr tref ac aelodau’r Blaid wedi cyfrannu’n ariannol ac yn ymarferol at Porthi Pawb sy’n cael ei redeg gan Chris Summers. Ar ddyddiau Iau bob wythnos, bydd prydau poeth wedi eu coginio’n lleol yn cael eu dosbarthu i rhai cannoedd o drigolion y dref.

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Gynghorydd Tref y Blaid, Eleri Lovgreen am ei gwaith yn cynorthwyo Chris gydag elfen weinyddol y cynllun a pharatoi'r gwaith o hawlio grantiau ar ran Porthi Pawb. Mae’r cynllun yn gweithio’n hwylus ac mae’n ehangu’n gyflym er mwyn diwallu’r angen sydd yn lleol ar gyfer prydau maethlon cynnes.

Mae cwmni lleol hefyd yn cydweithio yn yr ymdrech o fwydo’r dref. Perchennog tŷ bwyta Indiaidd, Sopna, yw Shajanur Raja a’i wraig Rukshana Raja Sumona ac mae’r cwpl  wedi dechrau dosbarthu prydau cyri yn rhad ac am ddim yn Ward Peblig yn ddiweddar. Mae rhai o aelodau a chefnogwyr y Blaid yng Nghaernarfon wedi bod yn eu cynorthwyo i ddosbarthu’r bwyd, ac yn gwneud hynny ar ran y tri chynghorydd tref lleol sy’n gorfod hunan ynysu – Tudor a Brenda Owen a Kenny Khan oherwydd sgil effaith y pandemig.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion dros eraill, yn ystod y misoedd diwethaf. Ar nodyn bersonol, hoffwn ddiolch i’m cyd gynghorwyr sir a thref, Ioan Thomas, Cemlyn Williams, Ann Hopkin, Eleri Lovgreen, Dawn Jones, Richard Thomas, Tudor a Brenda Owen, Kenny Khan ac Wil Davies am y trafodaethau rydym wedi eu cael yn ein cyfarfodydd rhithiol i gydlynu ymateb y Blaid yng Nghaernarfon i’r argyfwng. Trwy gydweithio rydym wedi llwyddo i wasanaethu trigolion y dref drwy’r cyfnod heriol yma.

“Fel trigolion y dref, rydym yn ymwybodol o’r ymdeimlad cymunedol clos sydd yma. Mae’r cydweithio yn ystod y pandemig hwn, wedi tynnu’r gorau allan ym mhobl tref y Cofis. Diolch i bawb am eu gwaith, eu cefnogaeth a’u hymroddiad parod,” meddai’r Cynghorydd Larsen.

(Llun: Llond car o fwyd i'r bregus)


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns