Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Dyffryn Ogwen yn cefnogi cais mudiad Cylch yr Iaith sy’n galw ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gryfhau Cymreictod Castell Penrhyn a sicrhau bod hanes diwylliannol a threftadaeth y lleoliad yn cael ei gyflwyno i ymwelwyr.
Llun o dim Plaid Cymru Dyffryn Ogwen Cynghorwyr: Paul Rowlinson, Dafydd Owen, Rheinallt Puw a Dafydd Meurig
Yn dilyn nifer o gwynion gan bobl sydd wedi ymweld â Chastell Penrhyn yn Llandygái ger Bangor yn ddiweddar, mae Cylch yr Iaith, mewn llythyr agored, yn galw ar yr Ymddiriedolaeth i wella’r ddarpariaeth Gymraeg sydd yn y lleoliad, gan sicrhau bod staff sy’n gallu’r Gymraeg yn rhoi dewis iaith i ymwelwyr wrth fynd draw i’r lleoliad.
Yn ogystal, mae pryder am ddiffyg trosglwyddo hanes datblygiad chwarel Penrhyn, ardal Bethesda a’r gymuned leol mewn print nac mewn fideo yn Gymraeg nac yn Saesneg.
“Diffyg ymwybyddiaeth o dreftadaeth hanesyddol sydd yma, sydd yn ei dro yn arwain at ddiffyg parch i’r gymuned leol wrth gyflwyno hanes y Castell a’r cyfnod,” yn ôl Cynghorydd Ward Arllechwedd, Dafydd Meurig.
“Rydym yn ymwybodol bod cenedlaethau o bobl leol yn parhau i gofio ing a thrallod eu teuluoedd, yn deidiau, neiniau a rhieni, o ganlyniad i gyfnod anodd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn.
“Fel corff sy’n derbyn arian cyhoeddus i drosglwyddo hanes, diwylliant a threftadaeth ardaloedd, siawns bod dyletswydd ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud hynny gydag urddas a pharch at y gymuned maen nhw’n gweithredu ynddi? Yn anffodus, mae nifer o unigolion sy’n ymweld â Chastell Penrhyn yn anhapus iawn â’r sefyllfa a’r profiad maen nhw wedi ei gael yno.”
Yn llythyr Cylch yr Iaith nodir y cwynion fel a ganlyn:
- Staff di-Gymraeg yn y dderbynfa islaw'r castell.
- Tocyn mynediad a derbynneb uniaith Saesneg.
- Staff di-Gymraeg yn gyrru'r cerbyd cludo rhwng y dderbynfa a'r castell.
- Tywysydd di-Gymraeg.
- Dim cyfeiriad at gymuned Bethesda yng nghyflwyniad y tywysydd.
- Dim llyfrau Cymraeg na Saesneg am hanes teulu'r Penrhyn na hanes Bethesda.
- Dim fideo Cymraeg na Saesneg yn rhoi hanes datblygiad y chwarel a Bethesda.
Yn ôl y Cynghorydd Rheinallt Puw sy’n cynrychioli Ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd; “Fel cynghorwyr dros yr ardal, mae’n siom bod corff o’r statws yma’n diystyru’r Gymraeg yn y sefyllfa yma. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio’n agos gyda chymunedau Dyffryn Ogwen wrth adrodd yr hanes. Mae’n bwysig parhau gyda’r berthynas hon fel bod cyfle i adrodd yr hanes o safbwynt cymunedau’r chwareli.
“Pobl, eu profiadau a’u cymunedau sy’n rhoi gwir werth i hen adeiladau o’r fath. Hanesion y bobl sy’n dod â naws y cyfnod yn fyw, ac mae gwaith ymchwil gan Croeso Cymru eisoes wedi cadarnhau hynny. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol angen parhau i ddatblygu’r berthynas gyda thrigolion Dyffryn Ogwen drwy ddod â hanes y cyfnod yn fyw, i addysgu ymwelwyr ac i roi blas unigryw Cymreig i bobl sy’n cerdded trwy ddrysau’r Castell a’r gerddi.
“Fel pleidwyr, rydym yn gwbl gefnogol i gais Cylch yr Iaith, a byddwn yn gohebu i’r un perwyl gan geisio dwyn perswâd ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sicrhau mai naws a diwylliant Dyffryn Ogwen, Gwynedd a Chymru sy’n cael ei adrodd i ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn.”
diwedd
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter