Heddiw (6 Rhagfyr) bydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn galw am gefnogaeth y Cyngor llawn i bwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau amgylchedd sefydlog a chadarn i fusnesau ffermydd yn dilyn Brecsit.
“Yma yng Ngwynedd, mae ffermydd teuluol bychain yn gonglfaen i gymunedau gwledig y sir,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson, “a chenedlaethau o bobl wedi eu magu i amaethu’r tir a chynhyrchu bwyd o safon gaiff ei gwerthu i’r cyhoedd.”
“Mae amaethu yn rhan annatod o ardaloedd gwledig Gwynedd ac yn cynnal llawer o deuluoedd yn y sir. Bydd unrhyw newid ddaw i fyd amaeth yn sgîl Brecsit yn sicr o gael effaith uniongyrchol ar yr economi leol, cymunedau gwledig a’r iaith Gymraeg,” eglura’r Cynghorydd Rowlinson fydd yn cyflwyno cynnig sy’n gofyn am gefnogaeth y Cyngor llawn i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol y sir.
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Dyfrig Siencyn eisoes wedi ymateb ar ran Cyngor Gwynedd i ymgynghoriad swyddogol Llywodraeth Lafur Cymru ‘Brexit a’n tir’ lle mae’n nodi ei bryder sylweddol ynglŷn â’r newidiadau a gynigir a’r effaith niweidiol i’r economi wledig.
“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi diystyru’n llwyr gyfraniad y diwydiant amaeth i gynhyrchu bwyd ac fe allai eu cynigion weddnewid holl strwythr yr economi wledig heb unrhyw ymdrech i fesur effaith y newidiadau hyn mewn ymgynghoriad â’r diwydiant.
“Gallai’r newidiadau hyn niweidio y gymuned wledig ac o ganlyniad wanhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Mae ymateb y Gweinidog Leslie Griffiths yn ystod yr ymgynghoriad yn arwydd nad yw hi’n barod i wrando ar y negeseuon clir y mae wedi ei dderbyn, ac unwaith eto yn dangos nad oes gan y Llywodraeth Lafur hon ddealltwriaeth na chydymdeimlad a phobl cefn gwlad Cymru.”
Yn ôl Siân Gwenllian, AC Arfon: “Mae nifer o drigolion sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad Arfon yn ddibynnol ar yr economi mae’r byd amaeth yn ei chreu mewn ardaloedd gwledig. Dwi’n cefnogi galwad fy nghyd Bleidwyr yng Ngwynedd a byddaf yn parhau i roi pwysau ar wleidyddion Llafur yng Nghaerdydd.”
Yn ôl y Cynghorydd Rowlinson: “Rydym yn pwyso am sicrwydd y bydd unrhyw gefnogaeth yn cael ei rhoi i’r rhai hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol ar y tir ac yn rheoli tir, gan ganolbwyntio ar ffermydd teuluol bach a chanolig, ac nid i fusnesau mawr sydd â chyswllt amwys a’r byd amaeth.
“Mae angen darparu arian ar gyfer ei fuddsoddi mewn datblygu gwledig, yn arbennig i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i’r heriau economaidd y mae Cymru wledig yn eu hwynebu. Os yw gwleidyddion Llafur o ddifri am ddiogelu cymunedau gwledig, dylid cyfeirio’r arian i’r ardaloedd hynny lle mae’r economi’n fwyaf bregus, oherwydd eu bod nhw’n ardaloedd ymylol.
“Byddaf yn galw heddiw am gefnogaeth y Cyngor llawn i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau amgylchedd sefydlog a chadarn i deuluoedd cefn gwlad sy’n meithrin a gofalu am y tir yng Ngwynedd a thu hwnt” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter