Pobl Gwynedd yn haeddu gwell na derbyn un o wasanaethau trenau salaf yn Ewrop

Yng nghyfarfod o’r cyngor llawn yng Nghaernarfon heddiw (Iau, 1 Rhagfyr) mae’r Cynghorydd Huw Rowlands sy’n cynrychioli trigolion Llanwnda ar Gyngor Gwynedd yn galw am gefnogaeth ei gyd gynghorwyr i bwyso am godi safon a gwella gwasanaethau trên yr ardal

Mae pobl Gwynedd wedi gorfod dioddef rhwystredigaeth fawr oherwydd gwasanaeth trên annerbyniol ers blynyddoedd maith.

Dyna farn y Cynghorydd Rowlands, sy’n galw ar y ddwy lywodraeth a’r cwmnïau trên perthnasol, i godi safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd.

Mae safon y gwasanaeth trên yng Ngwynedd yn annerbyniol oherwydd:

  • lleihad sylweddol yn nifer y trenau sy’n rhedeg yn uniongyrchol o Fangor i Lundain
  • trenau yn rhedeg yn hwyr
  • trenau yn cael eu canslo 
  • trenau budr 
  • trenau gorlawn oherwydd diffyg cerbydau
  • gwasanaeth cwsmer gwael
  • cymhlethdod tocynnau, prisiau uchel a diffyg argaeledd rhai mathau o docynnau

“Mae’r cyfan gyda’i gilydd yn cael effaith negyddol ar drigolion ac economi’r Sir. Lleihawyd y gwasanaethau yn ystod cyfnod y Covid, ond er bod misoedd lawer wedi pasio, rydyn ni’n dal i ddisgwyl i’r gwasanaethau gael eu hail sefydlu i’r lefel roeddynt cyn y pandemig.”

Mae nifer y gwasanaethau trên uniongyrchol rhwng Bangor a Llundain a ddarperir gan Avanti West Coast wedi eu torri’n sylweddol, a dim dyddiad pendant ar gyfer pa bryd y bydd y gwasanaeth yn cael ei adfer.

“Ers sefydlu Trafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r gwasanaeth trên yng Nghymru, nid yw pethau wedi gwella. A dweud y gwir, mae safon gwasanaeth trenau Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei disgrifio fel y gwaethaf ym Mhrydain.

“Mae’r holl broblemau yn cael effaith andwyol ar economi’r sir ac ar lesiant pobl Gwynedd. Dyw hi ddim yn ddigon da, yn yr oes sydd ohoni. Nid yw chwaith yn adlewyrchu’n dda ar ymwelwyr sy’n dod yma ac yn defnyddio’r gwasanaeth.

“A rhaid cofio y bydd gwasanaeth newydd HS2 yn Lloegr yn costio dros £100 biliwn, ond chaiff pobl Cymru a Gwynedd ddim budd o'r buddsoddiad yma. Yn hytrach bydd rhaid i ni barhau i dderbyn gwasanaeth eilradd lle mae safon a gofal cwsmer yn gwbl, gwbl wallus.

“Mae pobl Gwynedd yn haeddu gwell na derbyn, yn ddi-gwestiwn, gwasanaeth sydd ymhlith y salaf yn Ewrop gyfan.

“Dwi’n mawr obeithio y caiff y cynnig ei basio gan Gyngor Gwynedd yn y gobaith y bydd yr ohebiaeth yn ysgogi'r llywodraethau perthnasol a’r cwmnïau trên i wella’r gwasanaeth i drigolion Gwynedd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2022-12-01 15:59:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns