Mae trigolion Gwynedd yn parhau i ddioddef chwe blynedd ers i gynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru achosi difrod i'w cartrefi gan eu gadael yn llaith, yn flêr ac angen gwaith atgyweirio.
Mae rhai trigolion tai preifat yn Neiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen ar eu colled yn ariannol ac eraill yn cael trafferth talu am waith atgyweirio.
Bwriad y prosiect Arbed, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd gwella effeithlonrwydd ynni’r tai gan sicrhau y byddai’r perchnogion â biliau ynni is. Ond mae gwaith israddol yn ardal Deiniolen wedi gadael y perchnogion â thai llaith sy’n datblygu’n llwydni, pibellau draenio wedi eu hail osod yn anghywir, render blêr a chraciau yn y waliau.
“Chwe blynedd yn ddiweddarach, a dydi rhai pobl ddim agosach i’r lan. Does dim cefnogaeth wedi dod i rai o’r trigolion yma i sicrhau iawndal ariannol am y gwaith maen nhw wedi gorfod ei wneud gan dalu o’u pocedi eu hunain,” meddai Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Elfed Williams, sy’n cynrychioli Deiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen.
“Mi hoffwn weld y bobl leol yma’n cael cyfiawnder gan Lywodraeth Cymru. Gyda rhai o’r cwmnïau fu’n gweithio ar y tai yn fethdalwyr a’r cwmnïau yswiriant yn gwrthod ymateb yn gadarnhaol, mae’r trigolion yn pryderu’n arw, wrth i rai tai barhau i ddirywio.
“Dwi hefyd yn awyddus i ddeall mwy pam bod trigolion tai yng Nghaerau, ger Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £2.65m i unioni’r gwaith yn eu heiddo nhw.
“Unwaith eto, mae’n teimlo fel petai Gogledd Cymru yn cael ei anghofio a’i adael ar ôl. Siawns os yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r problemau a achoswyd gan y cwmnïau hyn, y dylai POB perchennog cartref sydd wedi eu heffeithio gael eu digolledu ac unioni’r gwaith ar unwaith.
“Mae perchnogion tai yn cael eu diystyru ar ôl ymgymryd â chynllun y Llywodraeth yn ddidwyll, gan wneud eu rhan wrth fynd i’r afael â materion hinsawdd a lleihau biliau ynni eu cartrefi,” meddai’r Cynghorydd.
Mae Geraint Tomos, o Lôn Las, Deiniolen yn teimlo effaith negyddol y cynllun cymorth grant.
“Dwi’n siomedig iawn gyda’r gwaith ac yn teimlo nad ydi effeithlonrwydd ynni fy nhŷ fi wedi gwella o gwbl.
“Dwi wedi cael problemau efo’r cladin newydd ar y tŷ ac efo ansawdd y paent hefyd. Roedd dŵr yn treiddio i mewn drwy’r ffenestri ac wrth y to, ac ar ôl i mi fynd i ymchwilio dyma ddallt nad oedd y cladin wedi ei selio, felly roedd dŵr yn treiddio tu ôl i’r cladin ac i mewn i’r waliau. Unwaith i mi adfer y gwaith, mi stopiodd y broblem.
“Mae ansawdd y gwaith paent ar waliau tu allan i’r tŷ yn wael, a’r haf yma bydd raid i mi baentio’r tu allan i wella cyflwr y waliau.
“Mae’r holl brofiad wedi bod yn anghynnes. Ond dwi’n teimlo mod i’n weddol lwcus, o’i chymharu â nifer o drigolion eraill yr ardal. Mae rhai pobl yn cael trafferth mawr gyda lleithder a llwydni yn eu tai ac mae hynny’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles.”
Mae’r Cynghorydd Elfed Williams yn cydweithio gydag Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian sydd mewn trafodaethau gyda’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, i geisio datrysiad i’r trigolion.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter