Mae cais i drigolion Gwynedd leisio barn ar gynllun i ddatblygu coedwig Glasinfryn rhwng Bethesda a Bangor yn fusnes gwyliau newydd gyda 40 caban ar y tir.
Yn y llun: Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, Menna Baines, Pentir a Dafydd Owen, Tregarth a Mynydd Llandygai
Cyflwynwyd cais cynllunio i Gyngor Gwynedd ar gyfer 40 o gabanau, adeilad croeso a dau lyn dŵr o fewn y coetir.
Galwodd Cynghorwyr Plaid Cymru, Dafydd Owen a Menna Baines, gyfarfod diweddar yng Nglasinfryn yn holi am farn y trigolion lleol gan eu hannog i fynegi eu barn i'r Cyngor cyn y dyddiad cau ddydd Mercher, 26 o Fedi 2018.
Eglurodd y Cynghorydd Dafydd Owen, cynrychiolydd trigolion Tregarth a Mynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd: “Roeddem yn awyddus i bobl leol gael y cyfle i rannu eu teimladau a chyfrannu i'r broses gynllunio, fel bod gan bawb gyfle i ddeall y bwriad ac i fynegi barn.
“Mae cais cynllunio fel hwn yn cael effaith uniongyrchol ar drigolion lleol, eu bywydau dyddiol ac ar y gymuned gyfan. Mae'n bwysig bod pobl yn mynegi barn a rhannu eu teimladau.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Baines, sy'n cynrychioli ward Pentir ar Gyngor Gwynedd: “Bydd preswylwyr o stad dai Bro Infryn yn sicr o gael eu heffeithio os caiff y cynllun yma ei basio. Dyna un rheswm y teimlwyd ei bod hi’n bwysig bod cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu.”
“Mynychodd nifer o bobl y Ganolfan yng Nglasinfryn yr wythnos ddiwethaf (13 Medi), tra oedd pobl eraill oedd yn methu mynychu'r cyfarfod hefyd wedi bod mewn cysylltiad â ni, fel cynrychiolwyr lleol.
“Roedd y rhan fwyaf o'r trigolion a oedd yn bresennol yn pryderu am yr effaith gyffredinol y byddai datblygiad o'r math hwn yn ei gael ar y gymuned, yn arbennig y sŵn allai ddatblygu o bentref gwyliau o'r maint yma.”
“Roedd traffig yn fater arall a drafodwyd, gyda phobl eisoes yn bryderus iawn am geir yn gyrru’n gyflym yn yr ardal a cherbydau anaddas sy’n defnyddio'r ffordd gul trwy bentref Glasinfryn gan gynyddu’r risg i gerddwyr gan nad oes palmant ar y ffordd.”
Roedd unigolion eraill a fynychodd y cyfarfod yn gefnogol i'r cais, gan nodi y gallai'r datblygiad ddod â manteision economaidd i'r ardal, ac y byddai'n datblygu darn diffaith o dir.
Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn economi Gwynedd, ac roedd rhai trigolion yn teimlo y gallai Glasinfryn elwa o ddatblygu busnes caban gwyliau safonol ar garreg eu drws. Ond roedd eraill yn cwestiynu natur unrhyw gyfleoedd cyflogaeth posibl.
“Beth bynnag yw teimladau pobl, mae'n bwysig eu bod yn lleisio eu barn gyda gwasanaeth cynllunio Cyngor Gwynedd cyn dydd Mercher, 26 Medi,” esboniodd y Cynghorydd Dafydd Owen.
“Mae gan y Cynghorydd Dafydd Owen a minnau nifer o amheuon ynghylch y cais, a byddwn yn gwneud rheiny’n hysbys i swyddogion, fel rhan o'r weithdrefn gynllunio arferol,” esboniodd y Cynghorydd Menna Baines.
Dylai unrhyw un sy'n awyddus i ddysgu mwy am y cais, a rhoi sylwadau arno, ddyfynnu cyfeirnod C18/0767/25/LL ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter