Wyddoch chi fod dros 116,000 tunnell o lechi’r gogledd yn cael eu hallforio o Borthmadog yn 1873? Mae’r dref yn chwarae rhan allweddol bwysig yn hanes stori ardal llechi Cymru fel safle treftadaeth y byd UNESCO.
“Mae pawb yn ymwybodol o bwysigrwydd ardaloedd chwarelyddol Blaenau Ffestiniog a Bethesda, lle cloddiwyd y llechi wnaeth doi cymaint o adeiladu’r byd yn y 19eg ganrif,” meddai’r Cynghorydd dros Ddwyrain Porthmadog, Nia Jeffreys (yn y llun, ar y dde, gyda'r Cynghorydd Selwyn Griffiths).
“Wrth ymfalchïo a dathlu llwyddiant Gwynedd a’r bartneriaeth i sicrhau safle treftadaeth y byd UNESCO dwi’n awyddus i gydnabod pwysigrwydd trefi ac ardaloedd fel Porthmadog yn y stori hefyd.
“Y llongau ym mhorthladd Porthmadog oedd yn cario’r llechi o Gymru i bedwar ban byd. Mae’n dref hollbwysig yn yr hanes, wedi i William Maddocks adeiladu’r cob filltir o hyd erbyn 1811 a chreu’r porthladd naturiol oedd yn caniatáu i longau gyrraedd y lan yn y dref.”
Daeth Port yn borthladd cludo prysur yn y 19eg ganrif a llechi oedd y prif gynnyrch oedd yn cael ei allforio o’r dref gan gyrraedd yno ar hyd rheilffordd Ffestiniog. Ceffylau oedd yn tynnu’r nwyddau ar hyd y rheilffordd yn wreiddiol gyda chymorth disgyrchiant ond pan ddaeth yr injan stêm i’r golwg yn 1863, newidiwyd y drefn a defnyddio’r locomotif.
Yn ôl y Cynghorydd sir dros Orllewin Porthmadog, Selwyn Griffiths: “Mae 'na hanes a thraddodiad pwysig am adeiladu llongau ym Mhorthmadog a Borth y Gest. Ac mi oedd yn economi pwysig i’r ardal gyda gweithwyr yn ennill cyflogau da o adeiladu’r llongau a gweithio ar y môr.
“Hyd heddiw, mae 'na res o dai ym Mhorth y Gest o’r enw Peilot House. Mi fyddai’r perchnogion yn gweld y llongau’n dod i mewn o’r môr, yn mynd allan atynt a’i harwain i mewn i’r harbwr ar hyd y llwybr mwyaf diogel i’r porthladd.
“Mae 'na hanes difyr hefyd am ynys fechan, Cei Balast a grëwyd i’r dwyrain o afon Glaslyn gerllaw’r porthladd. Roedd y llongau’n gadael harbwr Porthmadog yn llawn dop o lechi, ond wrth ddod nôl i mewn, byddai’r llongau angen ychydig o bwysau arnynt i sicrhau mordaith wastad a diogel.
“Byddai’r llongau’n cael eu llwytho â balast wrth gychwyn nôl ar eu taith am Gymru, sef gwastraff cerrig a chreigiau, ac wrth gyrraedd cyrion yr harbwr ym Mhorthmadog, byddent yn gwagio’i balast ar yr ynys fechan cyn llwytho’r llechi gwerthfawr ac ail ddechrau ar eu mordaith allan o Gymru. Dwi’n siŵr byddai modd canfod cerrig a chreigiau o bob rhan o’r byd ar Cei Balast heddiw.”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Ein gobaith rŵan yw y daw’r dynodiad safle treftadaeth y byd gan UNESCO â buddion i ni’n lleol. Mi hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Dafydd Wigley am ei waith fel Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru ac i bawb arall fu’n rhan o’r gwaith gan sicrhau bod Porthmadog a’r ardal yn rhan o’r dynodiad hanesyddol pwysig yma.”
Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths: “Mae nodi pwysigrwydd y fro i’r diwydiant a’r rhan dyngedfennol chwaraeodd pobl Porthmadog, yn adeiladwyr, yn forwyr, yn gapteiniaid ac yn weithwyr diwyd yn ennyn balchder i ni’n lleol. Diolch i bawb gydweithiodd ar sicrhau’r dynodiad UNESCO i ni yng Ngwynedd – y gobaith nawr yw y daw, yn ei sgil, fuddsoddiad, datblygiad ac agor y drws ar dudalen newydd yn ein hanes.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter