Ymweliad ail gylchu Ffridd Rasus, Gwynedd

Mae trigolion Gwynedd yn ail-gylchu 65.9% o’i gwastraff erbyn hyn, mymryn yn fwy na record ffigwr ail-gylchu Cymru gyfan ar gyfer 2020-2021 sef 65.4%. Golyga hyn bod £4 miliwn yn cael ei arbed i drethdalwyr Gwynedd yn flynyddol gan arbed 17,000 tunnell o allyriadau carbon.  

Dyma rhai o’r ffigyrau y bu’r Cynghorydd Gwynfor Owen (yn y llun uchod, ar y safle) yn eu clywed wrth ymweld â Chanolfan Ail Gylchu Harlech ar safle Ffridd Rasus yn ddiweddar. Mae holl sbwriel Meirionnydd yn cael eu cludo i’r safle ac yn cael ei ail-gylchu neu ei losgi er mwyn cynhyrchu trydan.

“Ces agoriad llygad go iawn,” eglura’r Cynghorydd Gwynfor Owen sy’n cynrychioli trigolion Harlech a Thalsarnau  ar Gyngor Gwynedd.

“Roedd hi’n bleser cael gweld y safle a chael deall mwy am y broses mae’r staff yn ei dilyn er mwyn gwaredu â gwastraff o’n cartrefi ni yma ym Meirionnydd.

“Erbyn hyn dyw Cyngor Gwynedd ddim yn anfon sbwriel i’w dirlenwi, mae popeth yn cael ei ail gylchu neu ei losgi er mwyn cynhyrchu ynni, ar ffurf trydan. Dwi’n falch iawn o’r gwaith i leihau’r effaith amgylcheddol mae’r sir yn ei wneud ac yn ddiolchgar i’r trigolion lleol am leihau eu gwastraff ac ail gylchu deunyddiau yn eu cartgylchu glas.

“Mae angen llongyfarch staff Ffridd Rasus am eu gwaith proffeisynol yn rhedeg y safle - mae delwedd a glanweithdra’r lleoliad i’w ganmol yn arw. Mae gwaith tirlunio wedi digwydd ar y safle erbyn hyn, gyda mwy o waith i’w wneud ac mae’n agoriad llygad i weld y ganolfan.

Yn ôl y Cynghorydd Catrin Wager sydd â’r cyfrifoldeb dros wastraff  ac ail gylchu yng Ngwynedd: “Mae’r person cyffredin yng Ngwynedd yn cynhyrchu dros hanner tunnell o wastraff y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf ohono'n cael ei ail gylchu mewn rhyw ffurf.

“Mae’r deunydd yma, fel arfer, yn cael ei werthu am elw sy’n dod ag incwm cyfartalog o tua £700,000 y flwyddyn i’r cyngor. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i drigolion Gwynedd am eu dygnwch a’i dyfalbarhad yn lleihau gwastraff ac yn ail gylchu. Ond mae 'na wastad fwy i’w wneud. Byddwn yn annog pawb i gydweithio er mwyn parhau i sicrhau ein bod ni’n gwneud y defnydd gorau o nwyddau a chynnyrch yn ein cartrefi er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd a cheisio sicrhau dyfodol gwyrdd a llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2022-02-12 10:35:22 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.