A wnaiff Cynghorwyr Gwynedd gefnogi’r cais i barhau yn Gymry Ewropeaidd?
“Dwi’n teimlo bod llais pobl Gwynedd ac ardaloedd tebyg ddim yn cael ei chlywed yn ystod y trafodaethau sy’n mynd yn eu blaenau am Brexit. Gwnaeth mwyafrif pobl Gwynedd bleidleisio yn y Refferendwm i aros yn Ewrop,” meddai’r Cynghorydd Judith Humphreys, sy’n cynrychioli Penygroes ar Gyngor Gwynedd.
Dyna’r rheswm y bydd y Cynghorydd, a grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn galw yr wythnos hon am gefnogaeth holl Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi’r cais i bwyso am ddinasyddiaeth Cymru Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit.
Aelod newydd wedi ei phenodi i Gabinet Cyngor Gwynedd
Mae Cynghorydd Plaid Cymru Nia Jeffreys o Borthmadog wedi ei phenodi yn Aelod Cabinet newydd gan Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Busnesau Bangor Uchaf yn teimlo bod Swyddfa'r Post wedi eu siomi wedi cau’r gangen
Mae busnesau a gwleidyddion Bangor wedi dod ynghyd i geisio datrysiad hirdymor i drigolion a phobl fusnes Bangor Uchaf sydd wedi eu siomi gan Swyddfa'r Post wedi i’r gangen leol gau.
Cyflog Byw Cenedlaethol i staff Cyngor Gwynedd o Ebrill 2018 ymlaen
Mae Plaid Cymru Gwynedd yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar o gytundeb ar gynnydd yng nghyflogau gweithwyr Llywodraeth Leol. Golyga hyn y bydd gweithwyr Cyngor Gwynedd yn derbyn Cyflog Byw Cenedlaethol neu fwy o’r 1af o Ebrill 2018.
Bu grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn gweithio dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau cyflog teg i’r gweithlu, gan ddiddymu'r ddau bwynt isaf (pwynt 6 a 7) yn strwythur cyflog staff. O ganlyniad mae isafswm cyflog yn codi o’r £7.90 i £8.62 yr awr ar y 1af o Ebrill 2018 ac o fis Ebrill, 2019 ymlaen i £9.18 yr awr.
Croesawu Dirprwy Arweinydd Newydd
Mae Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn wedi penodi’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Ward Arllechwedd yn Ddirprwy Arweinydd newydd y Blaid ar Gyngor Gwynedd.
Llwyddiant i ymgyrch Plaid Cymru Bangor wrth wrthwynebu datblygiad 366 o dai Pen-y-ffridd
Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn llawenhau bod eu hymgyrch i wrthwynebu datblygiad tai mawr, 366 o gartrefi newydd ym Mhen y Ffridd, Bangor wedi llwyddo!
Cadeirydd Newydd 2018
Wyneb newydd yn Gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd
Etholwyd gwraig ifanc o Ben Llŷn yn Gadeirydd newydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn ddiweddar.
Cyfarfod Gogledd Cymru
Rhai o gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd ac Aelod Cynulliad Arfon yn trafod gyda chyd-weithwyr y Blaid ledled y gogledd heddiw.